Andorra 1 - 2 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Coleman yn wynebu talcen caled

Mae gan Gymru lawer iawn, iawn o waith i wneud cyn y byddan nhw'n barod i gystadlu yn erbyn timau gorau Ewrop os oedd gêm agoriadol eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2016 yn bren mesur dibynadwy.

Fe chwaraeon nhw'n sâl ddifrifol drwy gydol y gêm ac oni bai am ddau foment o wychder gan Gareth Bale, mae'n debyg y byddan nhw wedi colli.

Cyn y noson hon roedd Andorra wedi colli 44 gêm yn olynol, ond fe ddaethan nhw mor agos i ddod â'r record ofnadwy yno i ben a chipio pwynt yn erbyn tîm sy'n cynnwys rhai o sêr disgleiriaf clybiau Ewrop.

Oni bai am Gareth Bale gallai Cymru fod wedi gorfod wynebu'r canlyniad gwaethaf yn eu hanes.

Mynd ar ei hôl hi

Ffynhonnell y llun, BBC Sport

Fe ddechreuodd y gêm yn drychinebus i Gymru.

Er iddyn nhw awgrymu eu bod am fod llawer rhy gryf i'r tîm cartref wrth i Gunter ergydio o fewn y funud gyntaf, Andorra aeth ar y blaen yn fuan wedyn.

Fe chwipiwyd cic gornel beryglus i mewn i'r bocs wnaeth achosi i Neil Taylor dynnu crys Ivan Lorenzo, gan achosi iddo syrthio i'r llawr mewn ffordd ddramatig.

Fe rwydodd prif sgoriwr Andorra, Ildefons Lima, yn hawdd o'r smotyn. Honna oedd gôl gyntaf Andorra mewn pedair blynedd, 18 o gemau, a thawelwyd y 1,500 o gefnogwyr oedd wedi teithio'r holl ffordd o Gymru.

Unioni

Roedd Cymru'n ei chael hi'n anodd torri drwy fur amddiffynnol soled eu gwrthwynebwyr, ond fe ddaeth Gareth Bale yn agos i'w gwneud hi'n gyfartal gyda pheniad da wedi 18 munud.

Dylai Andorra fod wedi cymryd sylw o'r rhybudd achos bum munud yn ddiweddarach fe darodd y bêl gefn y rhwyd yn dilyn peniad campus gan bêl-droediwr drytaf y byd.

Ben Davies wnaeth ddarparu pas wych i Bale, oedd rhyw 18 llath o'r gôl, ac fe wyrodd y bel yn glyfar gyda'i ben heibio i ochr chwith y gôl-geidwad.

Roedd y cae artiffisial yn peri problemau i Gymru, oedd yn gweld eu hunain yn gorfod pasio'n bell gan nad oedd modd gwybod sut fyddai'r bêl yn bownsio ar y llawr.

Cyfartal oedd hi ar yr egwyl.

Ail hanner gwael

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Doedd safon y cae ddim yn dderbyniol, yn ôl Chris Coleman

Fe ddechreuodd yr ail hanner mor wael â'r cyntaf gyda Chymru yn methu a gwneud eu marc. Roedd modd clywed y dorf yn griddfan wedi 49 munud pan fethodd cic gornel Joe Allen â mynd heibio'r amddiffynnwr cyntaf.

Cafodd Bale gyfle gyda chic wedi 56 munud ond roedd yr ongl yn un anodd ac roedd hi'n hawdd i'r gôl-geidwad yn y diwedd.

Ef oedd yr unig un oedd yn edrych fel petai yn gallu gweddnewid y gêm - roedd Ramsey'n anweledig - a daeth yn agos bum munud wedyn. Ond fe aeth ei ergyd fodfeddi heibio'r postyn.

Doedd Cymru ddim yn gallu gwneud dim byd yn iawn - roedd y pasio'n wael, symudiad y chwaraewyr yn wael ac ar fwy nag un achlysur fe redodd chwaraewyr i mewn i'w gilydd.

Fe ddaethon nhw'n agos wedi 72 munud - cic gornel yn achosi dryswch llwyr yn y bocs a'r bêl yn disgyn i Ledley o flaen y gôl. Ond fe lwyddodd yr amddiffynnwr i'w gwneud hi'n ddiogel.

Ramsey gymrodd y gic gornel wnaeth ddilyn ond ni ddaeth dim ohoni. Enillodd Cymru gic rhydd yn fuan wedyn ac fe darodd Ramsey hi dros y traws.

Fe fu bron i Andorra fynd ar y blaen am yr ail waith wedi i Ashley Williams wneud llanast yn y bwlch cosbi wedi 78 munud ac roedden nhw'n lwcus i ddianc.

Rhyddhad

Ddeng munud cyn y diwedd, cafodd Gymru gic rydd tu allan i gwrt cosbi'r gwrthwynebwyr ac yno yr aeth Bale i'w chymryd.

Fe aeth ei ymgais yn syth at y gôl-geidwad - ond fe chwythodd y dyfarnwr ei chwiban a rhoi cerdyn melyn i amddiffynnwr am adael y wal rhy gynnar.

I ryddhad y cefnogwyr fe hedfanodd ei ail ymgais yn syth i gornel uchaf y rhwyd. Doedd y selogion a ddaeth mor bell ddim yn gallu rheoli eu gorfoledd a bu'n rhaid i Bale eu perswadio i roi'r gorau i'w reiat.

Roedd diwedd y gêm, gyda'i chwe munud ychwanegol, yn flêr wrth i chwaraewyr Andorra daclo chwaraewyr Cymru yn beryglus gan sicrhau nifer o gardiau melyn yn y broses.

Bu'n rhaid i Ramsey adael y cae a bydd pryder amdano o ystyried ei record anafiadau.

Roedd hon yn ddihangfa anferth i Gymru ar ddiwedd y dydd, ond o leiaf fod tîm Chris Coleman wedi sicrhau'r triphwynt.

Mae'n siŵr o annog y chwaraewyr i anghofio am y gêm yma a chanolbwyntio'n llwyr ar y ddwy gêm fydd yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd fis nesaf: Bosnia-Hercegovina ar ddydd Gwener y 10fed o Hydref a Chyprus ar ddydd Llun y 13eg.

Yn y gêm arall gafodd ei chynnal ar y noson, fe lwyddodd Bosnia-Hercegovina rhywsut i golli gartref yn erbyn Cyprus.