Pickering yn colli ei le ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
David PickeringFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r cadeirydd David Pickering wedi methu yn ei ymdrech i gael ei ailethol i fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Roedd cyn gapten Cymru, Pickering, yn ceisio am un o ddau le ar y Bwrdd, ac roedd pum person wedi ymgeisio.

Cafodd Gareth Davies, prif weithredwr y Dreigiau, ac Anthony Buchanan, pennaeth rygbi y Scarlets, eu hethol o flaen Pickering yn y bleidlais.

Fe fydd Pickering, sydd wedi bod yn gadeirydd ers 2003, yn camu o'i swydd ym mis Hydref.

"Rwyf am fod y cyntaf i longyfarch Anthony a Gareth ar ennill y bleidlais," meddai.

"Rwy'n nabod y ddau yn bersonol, maen nhw'n ddynion mawr ym myd rygbi, a byddaf yn cynnig pob cymorth posib wrth iddynt ymuno a'r Bwrdd."

Enillodd Pickering 23 o gapiau dros Gymru, ac ef oedd rheolwr y tîm cenedlaethol yn ystod teyrnasiad Graham Henry.

Ym mis Gorffennaf eleni fe wnaeth y cyn asgellwr Rhyngwladol Gerald Davies gyhoeddi na fyddai'n ceisio cael ei ailethol i'r bwrdd, a Buchanan a Gareth Davies fydd yn cymryd ei le yntau a Pickering.

Fe gafodd Dennis Gethin ei ail ethol yn llywydd yn ddiwrthwynebiad.