Mari'n Morio dros Gymru

  • Cyhoeddwyd

Dim ond 17 oed ydi Mari Davies o Fethesda, Gwynedd ond eisoes mae'r hwylwraig ifanc yn bencampwraig Prydain.

Cafodd Mari a'i phartner hwylio, Sarah Norbury o Stoke-on-Trent, eu coroni yn bencampwyr Prydain yn y Dosbarth 420 yr haf yma. Mae'r ddwy hefyd wedi bod yn cystadlu ar hyd a lled Ewrop yn Mhortiwgal, yr Almaen ac ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Ewrop yn Gdynia, Gwlad Pwyl.

Disgrifiad o’r llun,

Mari a Sarah yn cystadlu

Cafodd Cymru Fyw gyfle i holi Mari am ei gyrfa hwylio, ei phrofiadau hyd yma a'i gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Sut wnaeth merch o Fethesda ddechrau hwylio? Beth oedd yr ysbrydoliaeth?

"Nes i ddechrau pan oeddwn i'n blentyn tua 5 oed - roedd ganddon ni gwch hwylio teulu oedd yn cael ei gadw ar lannau Llyn Tegid.

"Datblygodd hwylio efo mam, dad a fy mrawd bach, Iago i hwylio yn fy nghwch Optimist fy hun ym Mhwllheli.

"Mi ges i fy ysbrydoli gan y gymuned o hwylwyr profiadol yng nghlwb hwylio Pwllheli, er enghraifft Richard Tudor, yn ogystal â fy hyfforddwyr cyntaf, Yncl Gwyndaf ac Eifion Owen."

Oes yna ddigon o gyfleoedd yng Nghymru i bobl ifanc gymryd rhan?

"Mae nifer o glybiau lleol yn darparu cyfleoedd i blant ddechrau hwylio, fel CHIPAC (Clwb Hwylio Ieuenctid Pwllheli a'r Cylch).

"Bydd yr Academi Hwylio newydd, Plas Heli yn cynyddu'r cyfleoedd ym mhellach byth ond mae'n bwysig i deuluoedd lleol fanteisio ar y cyfleoedd ar eu stepan drws.

"Mae Cymdeithas Hwylio Cymru yn cynnal llawer o ddiwrnodau a chyrsiau er mwyn annog pobl ifanc i hwylio, er enghraifft Gŵyl OnBoard oedd yn cael ei chynnal penwythnos diwethaf yn Y Bala, lle mae plant a phobl ifanc yn cael cyfle i hwylio mewn nifer o gychod gwahanol a chael eu hyfforddi mewn rasio a chael hwyl yn gwneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Cystadleuthau Ewrop y flwyddyn yma

Wnes di fwynhau Pencampwriaethau Ieuenctid Ewrop yn Gdynia?

"Cefais i amser gwych yn Gdynia, gan fod y rasio mor gystadleuol a'r tywydd yn heriol gan fod y gwynt yn newid cyfeiriad yn aml.

"Roedd yn brofiad bendigedig gallu profi fy ngallu yn y fflyd Ewropeaidd a bod holl waith ac ymarfer y gaeaf yn dwyn ffrwyth. Yn sicr dyma un o uchafbwyntiau fy ngyrfa hwylio hyd yn hyn.

"Erbyn diwedd yr wythnos roedden ni yn y 3ydd safle ac felly'n ennill y fedal efydd."

Wyt ti erioed wedi cael profiad brawychus wrth hwylio? Tywydd garw a.y.y.b

"Rydw i wedi hwylio mewn un neu ddau o stormydd dros y flwyddyn diwethaf, yr un mwyaf brawychus oedd ar y Baltic oddi ar arfordir yr Almaen, ble cododd y gwynt o ddim i wyntoedd storm gyda mellt a tharannau a glaw ofnadwy. Digwyddodd hyn i gyd yng nghanol ras, a drwy ganolbwyntio, llwyddon ni i basio tua deg cwch!"

Disgrifiad o’r llun,

Mari (ar y chwith) a Sarah gyda'u tlysau

Beth yw'r gobeithion ar gyfer y gystadleuaeth yn Ffrainc a Sbaen yn erbyn hwylwyr gorau Ewrop?

"Mae'r tîm Prydeinig yn mynd i'r gystadlaethau yn Ffrainc a Sbaen er mwyn ymarfer yn y fflyd Ewropeaidd a chael profiad dros y gaeaf cyn i brif gystadlu'r haf ddechrau.

"Sarah a finnau yw'r hwylwyr sy'n y safle cyntaf ym Mhrydain bellach, felly mae cael cyfle i gystadlu yn erbyn yr hwylwyr gorau o wledydd eraill yn hanfodol er mwyn ein herio i wella o hyd.

"Felly wrth ystyried hyn hoffwn ganolbwyntio ar wella fy hwylio tactegol a dechrau'r rasys yn fwy effeithiol. Ar y llaw arall fyswn i wrth fy modd yn ennill mwy o fedalau wrth ddysgu wrth gwrs! Ond y prif nod ar gyfer flwyddyn nesaf i ni fydd ceisio ennill medal ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Siapan yn ystod Gorffennaf 2015."