Cyngor i bobl beidio oedi cael eu brechu rhag y ffliw cyn y gaeaf

Llun generic o fenyw yn cael ei brechu.Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl hŷn a'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael eu hannog i gael eu brechu rhag y ffliw cyn y gaeaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud y bydd cael y brechiad yn lleihau'r risg o salwch difrifol i bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel asthma a diabetes.

Yng Nghymru mae'r brechlyn yn cael ei gynnig bob gaeaf ac mae bron i filiwn o bobl yn cael eu brechu bob blwyddyn.

Ymhlith y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim mae pobl dros 65 oed, pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, gofalwyr a menywod beichiog.

Unigolion eraill sy'n gymwys i gael brechlyn yw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a phlant rhwng dwy ac 16 oed.

"Mae firysau'r gaeaf fel y ffliw yn lledaenu'n hawdd a gallent fod yn ddifrifol iawn i bobl hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd," meddai Dr Christopher Johnson, pennaeth rhaglen frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae oedolion â chlefydau cronig a systemau imiwnedd gwan yn fwy tebygol o ddioddef symptomau difrifol.

"Gall y ffliw gael effaith wirioneddol ar eich bywyd," medd Dr Johnson, gan ychwanegu mai cael brechlyn ydy'r "ffordd fwyaf effeithiol o'ch helpu i aros yn ddiogel".

'Peidiwch ag oedi'

Yn ôl swyddogion iechyd, gall nifer yr unigolion sy'n gymwys am frechlyn yn erbyn y ffliw hefyd gael brechiadau yn erbyn heintiau eraill sy'n fwy cyffredin yn ystod y gaeaf, gan gynnwys Covid-19.

"Dechreuodd tymor y ffliw yn gynnar y llynedd a pharhaodd drwy gydol y gaeaf, gan ychwanegu pwysau at y system iechyd a gofal ac effeithio ar ddarparu gwasanaethau meddygol," medai Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru.

"Peidiwch ag oedi cyn cael eich brechiadau pan gewch eich gwahodd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.