Annog graddedigion i edrych yn fwy lleol am gyfleoedd gwaith

Torf yn GradConFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnesau llai yng Nghymru yn gobeithio y bydd mynychu ffeiriau swyddi yn cynyddu nifer y ceisiadau maen nhw'n eu derbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i raddedigion ystyried cyflogwyr o bob maint er mwyn cael y siawns orau o gael swydd, yn ôl recriwtiwr.

Er bod llawer o gystadleuaeth am swyddi gyda chwmnïau cenedlaethol, mae rhai cyflogwyr lleol yn dweud nad yw swyddi sy'n cynnig yr un profiadau a chyfleoedd yn cael digon o ymgeiswyr.

Daw hyn wrth i ddata awgrymu bod y gystadleuaeth am swyddi graddedigion wedi cynyddu 15% dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

Ond gyda'r disgwyl y bydd yr angen am sgiliau lefel gradd yn tyfu dros y degawd nesaf, y cyngor i raddedigion yw i ystyried swyddi mewn amryw o sectorau i gynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael.

Tom Constantine
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tom Constantine aros yng Nghymru ar ôl cwblhau ei radd ym Mhrifysgol Abertawe

Ar ôl ennill gradd mewn peirianneg sifil o Brifysgol Abertawe, mae Tom Constantine, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, wedi aros yng Nghymru i weithio gyda chwmni adeiladu a pheirianneg Knights Brown.

Dywedodd: "Dwi'n hoffi datrys problemau ac mae bod ar site yn broblem, ar ôl problem, ar ôl problem.

"Mae pob diwrnod yn dod â phroblem wahanol, felly mae pob diwrnod yn wahanol, felly mae hynna'n neis.

"Dwi'n hoffi bod yn agos i'r teulu ond hefyd dwi'n credu bod lot mwy o options i siarad Cymraeg yn gweithio yng Nghymru.

"Mae'n rhywbeth neis i allu dod fewn i'r gwaith a siarad Cymraeg, hyd yn oed efo un neu ddau o bobl yn yr office."

'Cystadlu gyda chorfforaethau mwy'

Er i Tom benderfynu aros yng Nghymru, mae rhai cyflogwyr lleol yn dweud ei bod hi'n sialens cael ceisiadau ar gyfer rhai swyddi, wrth iddyn nhw gystadlu gyda chyfleoedd sy'n cael eu hysbysebu gan gwmnïau mwy.

Mae corff Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn bartneriaeth rhwng 10 o gynghorau de-ddwyrain Cymru, sy'n arwain ar benderfyniadau allai effeithio ar fwy na 1.5 miliwn o bobl sy'n byw yn yr ardal.

Er bod rhai swyddi gyda'r corff yn gystadleuol iawn, maen nhw'n dweud bod diffyg diddordeb gan ymgeiswyr mewn swyddi arbenigol.

Osian Elis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n sialens llenwi rhai swyddi arbenigol ar lefel rhanbarthol, yn ôl Osian Elis

Dywedodd Osian Elis o'r corff: "Y swyddi hynny sy'n gofyn am gymwysterau penodol a phrofiadau gwaith penodol hefyd, mae'r swyddi hynny yn ychydig yn anoddach i recriwtio ar eu cyfer nhw.

"Swyddi yn y meysydd cyllid, rheoli rhaglenni economaidd, buddsoddi, y swyddi ychydig mwy technegol.

"'Da ni yn wynebu rhai heriau wrth gystadlu gyda chorfforaethau mwy ar draws Prydain.

"Mae hynny yn wir i rai rolau lle mae cyflogwyr ehangach hefyd yn recriwtio am y mathau yna o swyddi."

Owain James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain James yn poeni nad yw siaradwyr Cymraeg yn dychwelyd i Gymru ar ôl gadael i astudio

Tydi'r sefyllfa yma ddim yn un newydd i Owain James, sylfaenydd gwefan recriwtio Darogan, gyda "heriau yn amrywio" mewn sectorau a chyflogwyr gwahanol.

"Ni'n delio efo lot o fusnesau bach o Gymru sy'n dweud 'ni'n rili stryglo i ffeindio pobl ifanc i wneud ceisiadau am swyddi, neu ddim yn gallu ffeindio talent'.

"Ni mewn sefyllfa yng Nghymru bel mae lot fawr o siaradwyr Cymraeg yn gadael Cymru i astudio, ac felly mae'r sgil hollbwysig 'na gyda nhw mewn perygl o aros draw dros y ffin, a ddim mor ddefnyddiol i fusnesau yn Lloegr."

Mewn data sydd wedi'i rannu gyda BBC Cymru, mae'r Institue for Student Employers yn dweud bod y gystadleuaeth am swyddi ôl-radd wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, gan gynyddu 15% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Er hynny, mae rhai busnesau llai yng Nghymru yn dweud eu bod nhw'n poeni am ddiffyg sgiliau o fewn diwydiannau arbenigol, fel technoleg ac adeiladu, wrth i fyfyrwyr ganolbwyntio ar dargedu cwmnïau adnabyddus.

Jordan Eardley
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jordan Eardley deithio o Ynys Môn i hyrwyddo cwmni M-SParc yng nghynhadledd GradCon yng Nghaerdydd

Wrth fynychu digwyddiadau fel GradCon - ffair swyddi gyntaf o'i math yng Nghaerdydd - mae busnesau yn gobeithio dangos i fyfyrwyr y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn nes at adref.

Gobaith Jordan Eardley ar ran parc gwyddoniaeth M-SParc yw "trio dod â phobl adra".

"Mae 'na bobl isio mynd a gweld y byd a gweld Prydain, ond wedyn maen nhw'n sylweddoli bod bach mwy o bres i gael wrth groesi'r ffin," meddai.

"Bysan ni heb gyrraedd hanner y bobl 'da ni 'di gweld heddiw, os na bod ni yma.

"Mae 'na gyfleoedd ar draws Cymru, a does ddim rhaid mynd i Lundain na Manceinion i gael y swyddi mawr 'ma."

Angen 11 miliwn yn fwy o raddedigion

Mae rhai cyn-fyfyrwyr wedi rhannu eu profiadau "digalon" o geisio cael swydd ar ôl graddio.

Ond mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd angen 11 miliwn yn fwy o raddedigion dros y degawd nesaf mewn sectorau sy'n tyfu - fel y diwydiannau creadigol, busnes a thechnoleg.

Yng Nghymru, mae Gyrfa Cymru yn dweud bod y galw ar ei uchaf o fewn y sectorau iechyd a gofal, gwyddorau bywyd, ac ynni.

Alaw Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alaw Jones yn gobeithio bod ffair swyddi fel GradCon am ddangos pa gyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru

Mae Alaw Jones, 24, yn gobeithio defnyddio'r ffair i ffeindio ei swydd gyntaf ar ôl dychwelyd o weithio dramor yn Sbaen.

Dywedodd: "Rŵan dwi'n edrych am gyfleoedd gwahanol yn y gyfraith a thu hwnt i weld be' alla i ddatblygu mewn i.

"Mae gan Gymru gymaint i gynnig, felly pam ddim Cymru?"

'Cael eich enw chi mas 'na'

Yn ogystal ag annog graddedigion i edrych yn lleol, dywedodd Owain James: "Y peth pwysig i wneud yw adlewyrchu ar eich gradd chi, ffeindio'r sgiliau trosglwyddadwy yna rhwng eich gradd chi a be' chi mynd iddo fe.

"Datblygwch eich rhwydwaith, mewn person, mewn digwyddiadau fel hyn, defnyddio LinkedIn er enghraifft i 'neud y cysylltiadau yna ar-lein efo pobl.

"Mae'n rhywbeth bach mae pawb yn gallu gwneud i helpu sefyll allan, cael eich enw chi mas 'na a gobeithio helpu chi yn y broses o ffeindio swydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.