Newidiadau i gynllun cymhorthdal dadleuol yn 'lleihau'r effaith' ar ffermwyr

Roedd nifer o brotestiadau pan gyhoeddwyd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn wreiddiol
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau i gynllun cymhorthdal dadleuol Cymru ar gyfer ffermwyr yn lleihau yr effaith bosib ar swyddi a niferoedd da byw, yn ôl gwaith modelu newydd.
Roedd asesiad blaenorol o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) wedi arwain at brotestiadau ar ôl i undebau honni bod yna awgrym y byddai nifer sylweddol o swyddi yn diflannu.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu cynllun diwygiedig yn addo "gwell canlyniadau a gwell gwerth am arian" na'r cymorthdaliadau presennol.
Ond yn ôl undeb NFU Cymru mae'r asesiad diweddaraf yn parhau i fod yn un "hynod bryderus".
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024
Ar ôl cael ei ddatblygu am flynyddoedd, bydd yr CFfC yn disodli taliadau yr oedd ffermwyr yn arfer eu derbyn gan yr Undeb Ewropeaidd, ac a oedd yn cael eu talu'n bennaf ar sail faint o dir a oedd dan eu gofal.
Mae'r cynllun newydd yn gwobrwyo dulliau cynaliadwy o amaethu a "nwyddau cyhoeddus" fel rheoli cynefinoedd i fywyd gwyllt a chloi carbon yn y tir.
Roedd asesiad blaenorol wedi awgrymu y gallai'r CFfC arwain at 10.8% o gwymp mewn niferoedd da byw ar ffermydd Cymru, ac 11.4% o ostyngiad yn yr oriau gwaith oedd eu hangen.
Fe geisiodd yr undebau drosi hyn i golledion swyddi posib, gyda ffermwyr yn gosod 5,500 o esgidiau glaw gwag ar risiau'r Senedd.
Roedd y ddogfen ei hun yn rhybuddio yn erbyn dehongli'r ffigyrau fel hyn, ac na fyddai o reidrwydd yn golygu "gostyngiad go iawn" mewn swyddi.
Roedd y symiau wedi'u selio ar oriau gwaith arferol person mewn swydd llawn amser, tra byddai oriau gwaith ffermwr yn llawer hirach fel arfer.
Gallai hefyd fod cynnydd mewn tasgau nad oedden nhw'n draddodiadol wedi'u cysylltu ag amaeth ar ffermydd, fel rheoli coetiroedd.

Cafodd miloedd o esgidiau glaw eu gosod ar risiau'r Senedd mewn protest y llynedd
Mae yna newidiadau sylweddol wedi bod i reolau'r cynllun ers y protestiadau gan ffermwyr yn 2024, gan gynnwys cael gwared ar orfodaeth iddyn nhw sicrhau bod coed ar 10% o'u tir.
Roedd gweinidogion wedi addo cyhoeddi asesiad effaith a dadansoddiad economaidd newydd, tra'n annog ffermwyr i edrych yn fanwl ar beth oedd y cynigion yn golygu i'w busnesau unigol.
Mae'r dogfennau diweddaraf yn amcangyfri' gostyngiad o oddeutu 5% mewn niferoedd da byw, a 4% mewn oriau gwaith.
Maen nhw'n pwysleisio eto bod hynny'n debygol o fod yn or-ddweud, tra bod y dadansoddiad ond wedi canolbwyntio ar haen sylfaenol y taliadau newydd.
Byddai cyllid ychwanegol ar gael drwy haen opsiynol i dalu ffermwyr am waith pellach, gwirfoddol - a bydd ffermydd yn gallu gweithio ar y cyd ar brosiectau ar raddfa eang.

Mae'r ffigyrau'n parhau i fod yn "hynod bryderus", meddai llywydd undeb NFU Cymru, Aled Jones
Er bod y modelu newydd yn well na'r hyn a welwyd yn flaenorol, dywedodd llywydd NFU Cymru Aled Jones bod y ffigyrau yn parhau i fod yn "hynod bryderus".
"Mae mwy o waith i'w wneud, felly, i gefnogi ffermio yng Nghymru, yn ogystal â'r busnesau a'r cymunedau yr ydym yn eu cynnal - busnesau sy'n cefnogi sector bwyd gwerth £10 biliwn yng Nghymru," meddai.
"Mae NFU Cymru am i'r llywodraeth ymrwymo i ddefnyddio'r wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw i adolygu ac ymdrin â'r elfennau sy'n cael effaith negyddol ar incwm, swyddi a lefelau cynhyrchu."

"Mae rhaid i [Lywodraeth Cymru] sicrhau bod haenau uwch y cynllun yn weithredol yn llawn ar frys," meddai Alex Phillips o WWF Cymru
Mynnodd grwpiau amgylcheddol bod y diwydiant amaeth yn colli swyddi dan y drefn bresennol, gyda'r gweithlu wedi crebachu o ryw 8000 rhwng 2011 a 2021.
Dywedodd WWF Cymru eu bod yn pryderu bod y CFfC wedi ei "wanhau" ac "na fyddai'n cyfateb i'w enw ac yn cynnig amaethu cynaliadwy".
"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch rhoi'r diwydiant amaethyddol ar sail fwy cynaliadwy, rhaid sicrhau bod haenau uwch y cynllun yn weithredol yn llawn ar frys," meddai Alex Phillips o'r elusen.
"Mae WWF Cymru wedi galw droeon am dros 50% o'r gyllideb i gael ei neilltuo i'r haen ddewisol erbyn 2030.
"Bydd hyn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o'r arian yn mynd tuag at gamau sy'n gyfeillgar i natur a'r hinsawdd, gan wneud busnesau fferm yn fwy gwydn, a chynhyrchu cyfleoedd newydd ar gyfer incwm a chyflogaeth – gan ddiogelu ffermydd teuluol a'r amgylchedd yn y tymor hir."

"Mae'n hanfodol bod ffermwyr yn dod i ddeall beth fydd y cynllun yn ei olygu iddyn nhw a'u fferm, a beth fydd eu taliadau tebygol yn 2026," meddai Huw Irranca-Davies
"Byddwn yn parhau i helpu ffermwyr i wneud y gorau o'r manteision i'w busnesau fferm ac i'r amgylchedd drwy ddefnyddio tair haen y cynllun," meddai'r dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies, sydd hefyd yn gyfrifol am faterion gwledig.
"Bydd y sefydlogrwydd, cynhyrchiant uwch ac effeithlonrwydd gwell a ddaw o hynny yn cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd o safon ac yn cryfhau eu lle yn y farchnad," ychwanegodd.
"Nid oes dwy fferm yr un fath. Nid yw'r dystiolaeth a gyhoeddir heddiw yn esbonio beth mae'r cynllun yn ei olygu i ffermydd unigol.
"Felly, mae'n hanfodol bod ffermwyr yn dod i ddeall beth fydd y cynllun yn ei olygu iddyn nhw a'u fferm, a beth fydd eu taliadau tebygol yn 2026."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.