'Gorfodi 'dyn i weithio am 13 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Darrell SimesterFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Darrell Simester wedi bod ar goll am 13 mlynedd

Mae llys wedi clywed bod tad a mab wedi gorfodi dyn bregus i weithio'n ddi-dâl ar eu fferm am 13 mlynedd.

Yn ôl yr erlyniad bu'n rhaid i Darrell Simester, 44 oed, weithio dyddiau 15 awr mewn amgylchiadau mochaidd ar fferm Cariad yn Llan-bedr Gwynllŵg ger Casnewydd.

Pan ddaeth ei deulu o hyd iddo roedden nhw'n cael trafferth ei adnabod oherwydd ei gyflwr truenus, ac roedd ganddo haint ar ei ysgyfaint a briwiau ar ei draed.

Mae Daniel Doran, 67 oed, a David Daniel Doran sy'n 42 yn gwadu cyhuddiadau o orfodi Mr Simester i weithio rhwng 2010 a 2013, ac mae disgwyl i'r achos bara am hyd at chwe wythnos.

Doedd teulu Mr Simester, o Kidderminster yn Sir Gaerwrangon, ddim yn gwybod lle'r oedd o ers oddeutu'r flwyddyn 2000.

'Ceisio dianc'

Wrth agor yr erlyniad dywedodd John Hipkin bod Mr Simester wedi cael ei ganfod mewn carafán, a bod yr heddlu wedi ei ddisgrifio fel pe bai wedi "cael ei adael i bydru".

Bu Mr Simester yn cysgu mewn sied oedd yn llawn llygod mawr am dros ddegawd cyn cael ei symud i garafán oer oedd â drws wedi malu, clywodd Llys y Goron Caerdydd.

Wedi i'r heddlu ddod o hyd iddo, dywedodd Mr Simester wrthyn nhw ei fod wedi ceisio dianc ddwywaith, ond cafodd ei ddal a'i gludo yn ôl i'r fferm gan David Doran.

Honnodd ei fod wedi cael gwybod y byddai'n cael ei ladd a'i gladdu gyda'r ceffylau.

Dywedodd Mr Hipkin: "Cafodd Darrell Simister ei orfodi i weithio yn erbyn ei ewyllys am 13 mlynedd a hynny o dan fygythiad.

"Fe fydd rhaid i chi fel rheithgor benderfynu os oedd Mr Simister wedi aros ar y fferm fel gwirfoddolwr am ei fod yn hoffi bywyd yno, neu os cafodd ei berswadio i aros o dan rhyw fath o fygythiad."

Honnwyd i Mr Simister gael ei godi yn y car gan y teulu Doran wrth deithio o dde Cymru i Kidderminster.

Rhwng 2000 a 2008 roedd yn cael ffonio'i deulu dair neu bedair gwaith y flwyddyn - ond clywodd y llys fod yna fygythiad i'w ladd pe bai'n dweud wrthyn nhw lle'r oedd yn byw.

Clywodd y rheithgor bod ei deulu wedi dechrau chwilio am Mr Simister pan ddaeth y galwadau i ben yn 2008.

Mae'r achos yn parhau.