80 mlynedd ers trychineb Gresffordd
- Cyhoeddwyd
80 mlynedd i'r diwrnod wedi i 266 o ddynion gael eu lladd yn nhrychineb glofa Gresffordd, mae 'na nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal i gofio am y digwyddiad.
Dros y penwythnos, bu arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam, gyda chyfle i ymwelwyr wylio ffilmiau o'r cyfnod a gwrando ar straeon gan gyn lowyr.
Roedd Band Pres Bradley a Chôr Meibion y Rhos yn perfformio i roi teyrnged i'r dynion a gollwyd.
Roedd' na hefyd gyfle i ymuno â grŵp Cyfeillion Cofio Trychineb Gresffordd, sydd wedi ei sefydlu i sicrhau fod pobl yn parhau i gofio'r digwyddiad.
Codi ymwybyddiaeth
Bwriad y grŵp yw cynnal digwyddiadau yn flynyddol i gofio'r drychineb, hel arian i gynnal a chadw'r gofeb yn Ngresffordd, a chodi ymwybyddiaeth am y drychineb mewn ysgolion lleol.
Vic Tyler-Jones ydi trysorydd y grŵp, ac mae hi'n dweud fod "sicrhau bod y drychineb yn aros yng nghof y cyhoedd yn bwysig iawn".
Un o aelodau'r Cyfeillion, Ruby McBurney, oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch i osod plac ar Olwyn Gresffordd gydag enwau'r 266 fu farw.
Fe gollodd Ms McBurney ei thad, William Crump, yn y drychineb.
Rŵan, mae hi wedi galw am gymorth busnes lleol er mwyn gosod plannwr blodau ger yr olwyn.
Y saer maen, John Burton, sy'n gyfrifol am y gwaith, ac mae'r plannwr - sydd wedi ei wneud o dywodfaen lleol - yn ei le yn barod at ddigwyddiadau'r cofio eleni.
Fe ddywedodd Ms McBurney: "Fe alla'i orffwys rŵan - dw i'n gwybod fod pobl wastad wedi bod eisiau gadael blodau wrth y gofeb - ac fe gawn nhw wneud hynny'n iawn, o'r diwedd."
Gwasanaethau
Fore Llun, mae'r gwasanaeth coffa blynyddol yn cael ei arwain gan y Parchedig Ganon David Griffiths ger Olwyn Gresffordd.
Yn y prynhawn, mae gwasnaeth arbennig yn cael ei gynnal yn Eglwys Holl Seintiau Gresffordd.
Bydd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory Cameron ym cymryd rhan.
Fe ddywedodd fod "Medi 22 1934 yn ddyddiad sy'n graith ar galon pobl Wrecsam".
"Mae trychineb Gresffordd yn un o'r gwaethaf erioed yng Nghymru, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cofio'r rheiny fu farw, a'r gymuned gafodd ei rhwygo'n ddwy 80 mlynedd yn ôl," meddai.
Mae oriel luniau yn ymwneud â'r drychineb i'w gweld yn adran cylchgrawn Cymru Fyw.
Gêm bêl-droed
Roedd oddeutu 50 o'r glowyr gafodd eu lladd yn gweithio shifft ddwbl er mwyn mynd i wylio gêm bêl-droed rhwng Wrecsam a Tranmere y prynhawn hwnnw.
Bythefnos wedi hynny, roedd Wrecsam yn chwarae'n erbyn Caer, ac fe wnaed casgliad ymysg y 15,000 o gefnogwyr i helpu teuluoedd y glowyr.
Eleni, mae Wrecsam yn chwarae yn erbyn Caer ar 22 Medi, a bydd y rhaglen yn cynnwys gwybodaeth am y drychineb.
Yn ogystal, fe fydd Wrecsam yn rhoi teyrnged i'r dynion yn eu gêm gartref yn erbyn Eastleigh ar ddydd Sadwrn, 27 Medi.
Yn ôl yr Aelod Seneddol lleol, Ian Lucas, mae'n braf gweld cymaint o weithgarwch i nodi'r achlysur.
Ychwanegodd: "Roedd trychineb Gresffordd yn ergyd drom i'r ardal, ac yn ddigwyddiad o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydyn ni'n ei anghofio, fyth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2014