Eisteddfod Genedlaethol yn lansio cynllun corawl
- Cyhoeddwyd
Yn rhan o baratoadau'r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer y Brifwyl ym Maldwyn a'r Gororau yn 2015, mae'r mudiad wedi lansio cynllun corawl.
Bwriad y cynllun, yn ôl yr Eisteddfod, yw rhoi cyfle i fwy o bobl o ddalgylch yr wyl berfformio gyda'i gilydd yn ystod wythnos yr ŵyl fis Awst.
Y nod yw galluogi pobl i ymuno â chyfres o gorau cymunedol.
Yna, bydd y corau hynny'n ymuno i ganu gyda'i gilydd ar lwyfan y pafiliwn.
Cwynion
Daw newyddion yn dilyn cwynion gan gantorion am strwythur côr yr Eisteddfod yn Sir Gâr eleni.
Roedd rhai wedi beirniadu'r Eisteddfod am y diffyg aelodau o du allan i Lanelli.
Yn ôl cwyn gwrandawr di-enw ar raglen Taro'r Post, roedd hi'n "gywilyddus" bod popeth wedi'i ganoli yn Llanelli, er mai Eisteddfod Sir Gaerfyrddin oedd hi.
Aeth y gwrandawr ymlaen i ddweud nad oedd yn aelod o'r côr oherwydd fod yr ymarferion yn rhy bell o'i gartref ac mai "Llanelli yn unig fydd yn elwa o'r Eisteddfod".
Bryd hynny, fe ddywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, ei bod hi'n rhannol gytuno â'r feirniadaeth: "Dwi'n derbyn bod na ffordd wahanol o wneud pethau."
'Creu gwefr gorawl'
Nawr, mae hi'n dweud ei bod hi'n edrych ymlaen at "gynllun newydd a chyffrous".
"Ein gobaith yw creu gwefr gorawl ar hyd a lled y dalgylch, a fydd yn ysbrydoli pobl o bob oed i ddod ynghyd i ymuno gyda chôr yn enw'r Eisteddfod, gan obeithio y bydd nifer fawr o'r aelodau'n penderfynu parhau i ganu gyda'i gilydd yn dilyn y Brifwyl y flwyddyn nesaf."
Fe fydd y prosiect yn gweithio gyda chorau sydd eisoes yn bodoli yn y dalgylch, ac yn creu rhai newydd.
Yna, bydd y corau'n cynnal ymarferion ar wahan, yn ogystal â rhai torfol dan ofal Jeff Howard, y trefnydd a'r arweinydd.
Mae'r fenter yn dechrau ar Hydref 11 yn Ysgol Glantwymyn, lle gall unrhyw un sy'n awyddus i fod yn rhan o'r prosiect fynychu sesiwn 'Dewch i Ganu'.
Ychwanegodd Elen Elis: "Dros y blynyddoedd, mae amryw o astudiaethau wedi profi bod budd mawr mewn canu cymdeithasol.
"Mae dod ynghyd i ddysgu gwaith newydd a'i berfformio nid yn unig yn gyfle addysg gydol oes, ond mae hefyd yn llesol i iechyd, ac wrth gwrs, mae'n gyfle i ddod i adnabod criw newydd o ffrindiau ac i gael oriau lawer o hwyl, gyda pherfformiad ar lwyfan cenedlaethol y flwyddyn nesaf yn goron i'r cyfan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2014