Aled: Canu, Daybreak a'r Dyn Eira
- Cyhoeddwyd
Mae Aled Jones wedi gadael y soffa ac yn ôl ar y llwyfan. Ar ôl cyfnod yn cyflwyno Daybreak, rhaglen amser brecwast ITV, mae'r canwr o Landegfan, Ynys Môn bellach yn paratoi i ymweld â rhai o neuaddau Cymru i hyrwyddo ei albwm newydd.
Cafodd Cymru Fyw air efo Aled ynglŷn â'r daith
Sonia 'chydig wrtha ni am y daith a'r caneuon y byddi di'n eu canu.
" 'Songs Of Hope and Inspiration' ydi enw'r daith. Mi fydda i yn canu detholiad o'r hen ffefrynnau a rhai oddi ar fy albwm newydd. Rydw i yn edrych 'mlaen i ymweld ag Aberystwyth (Canolfan y Celfyddydau), Llandudno (Venue Cymru) ac Abertawe (Theatr y Grand)."
Rwyt ti wedi cyflwyno ystod eang o raglenni gan gynnwys Songs of Praise, Daybreak a rhaglenni radio i BBC Radio Cymru, BBC Radio 2 a Classic FM. Be 'di'r gorau gen ti erbyn hyn - y cyflwyno 'ta'r canu?
"Dwi'n gw'bod ei fod o'n swnio'n chydig o cop-out ond dwi'n caru'r ddau gan eu bod yn adlewyrchu dwy ran wahanol o fy nghymeriad. Rydw i dal i gyflwyno ar y teledu diolch i'r gyfres 'Weekend' ar ITV1. Ond na'i byth stopio canu ...mae canu yn fy esgyrn i."
Mi ddaeth 'Daybreak' â dwy her fawr i ti - codi'n eithriadol o gynnar a delio efo straeon mawr y dydd. Sut wnes di fwynhau'r profiad?
"Dwi'n godwr cynnar beth bynnag felly doedd hynny ddim yn rhy galed, er roedd hi'n lot anoddach yn y gaeaf gan ei bod hi mor dywyll wrth i mi deithio i'r stiwdio. Rydw i wrth fy modd gyda her ac mi ddysgais i lot tra'n gweithio ar 'Daybreak'. Roedd hi'n wych gweithio efo Lorraine Kelly ac mi ddysgais i lawer ganddi hi. Rydw i yn hynod o ddiolchgar iddi hi am hynny."
Pa dalentau cerddorol sydd wedi creu argraff arnat ti'n ddiweddar?
"Mae nifer fawr ohonyn nhw wedi bod ar 'Weekend' yn barod. Ond rhaid dweud fy modi'n hoff iawn o Tom Baxter sy'n prysur gwneud enw iddo ei hun fel canwr a chyfansoddwr."
Pa mor aml wyt ti'n cael y cyfle i ddod adre i Ynys Môn?
"Ddim mor aml a 'sw'n i'n hoffi, ond mae nghalon i yno bob amser. Roeddwn i mor lwcus i gael fy magu yno."
Rwyt ti hefyd wedi bod yn brysur yn y stwidio yn ddiweddar...
"Do. 'Dwi wedi gorffen recordio albwm arall - dwi 'di recordio 30 o recordiau hir erbyn hyn. Bydd 'At The Heart Of It All' yn y siopau ddechrau Tachwedd. Mi wnes i fwynhau'r broses - gobeithio bydd pobl yn mwynhau gwrando arni hi!"
Mae'n siwr bod hi'n anodd i ti fynd i unman heb i rywun dy atgoffa am y dyn eira enwog?
"Rydw i mor ddiolchgar i'r cyfle ges i i ganu "Walking in the Air" o'r ffilm The Snowman. Mae rhai pobl yn anghofio mai nid fi ganodd y gân yn y ffilm yn 1982. Mi nes i cover ohoni yn 1985 a chyrraedd rhif 5 yn y siartiau. Mae gen i atgofion melys iawn o'r cyfnod hwnnw pan oeddwn i'n fachgen ifanc yn canu trebl a dydw i ddim yn blino ar gael fy atgoffa o'r dyn eira!"
Songs of Hope and Inpiration: Venue Cymru, Llandudno, Hydref 14
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Hydref 15
Theatr y Grand, Abertawe, Hydref 16