Ymgeisydd Reform 'wedi derbyn dros 50 o fygythiadau i'w fywyd'

Llŷr PowellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llŷr Powell fod rhywun wedi ei wthio a phoeri yn ei wyneb ar un achlysur

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd Reform UK yn isetholiad Caerffili yn dweud ei fod wedi derbyn dros 50 o fygythiadau i'w fywyd yn ystod yr ymgyrch.

Er bod yr isetholiad dair wythnos yn ôl erbyn hyn, mae Llŷr Powell yn dweud fod y bygythiadau'n parhau.

O ganlyniad, mae'n galw am fwy o ddiogelwch i'r rhai sy'n sefyll mewn etholiadau.

Yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, mae angen "gwneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem hon" cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, a chyflwyno "ffyrdd haws i gyfeirio problemau at yr heddlu".

Yn ystod ymgyrch isetholiad Caerffili, dywedodd Mr Powell ei fod wedi derbyn 55 o fygythiadau i'w fywyd.

Ychydig ddyddiau cyn y canlyniad fe gafodd ei symud i fyw mewn lleoliad cyfrinachol gan ei blaid yn dilyn ymosodiad ar ei gartref.

"O'n i lan lofft yn fy nhŷ ac yn clywed y drws yn cael ei gicio i lawr oddi tano, a'r gloch yn canu, ac wrth glywed mwy o leisiau roeddwn yn panicio mwy," meddai.

"Edrychais allan drwy'r ffenestr a meddwl 'a allai hwn fod yr eiliad maen nhw wir yn fy lladd i?'

"Mae'n deimlad rhyfedd iawn."

'Anodd gadael y tŷ ar y funud'

Erbyn hyn mae'n parhau i dderbyn cefnogaeth swyddogion diogelwch ar brydiau - rhywbeth sy'n cael ei ariannu gan Reform UK.

"Mae'n anodd i adael y tŷ ar y funud," meddai.

"O'n i'n gobeithio unwaith i'r dwst setlo y byddai pethau yn mynd 'nôl fel oedd e cyn yr etholiad. Ond dyw hynna heb ddigwydd eto.

"Ma' fe'n sioc i'r system. Mae rhaid i fi feddwl lle fi'n mynd am ginio, os ma'r teulu yn gallu dod gyda fi, os ma' ffrindiau fi'n gallu dod gyda fi?

"Fi ddim moyn i unrhyw berson fynd drwyddo beth fi'n mynd drwyddo, felly mae'n galed."

Llŷr Powell ar noson yr isetholiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Llŷr Powell yn ail yn yr isetholiad y tu ôl i Lindsay Whittle o Blaid Cymru

Dywedodd Mr Powell hefyd fod drysau ei swyddfa wedi'u gludo ar un achlysur, gyda'r heddlu'n dweud fod "dim byd y gallent ei wneud" gan fod y troseddwyr ar y lluniau CCTV yn gwisgo hoodies.

"Roeddwn yn gallu teimlo rhywun yn dod, yng nghornel fy llygad, fel golau bach, ac roeddwn i'n meddwl mai golau ffôn oedd e felly dechreuais banicio am beth oedd yn mynd i ddigwydd," esboniodd.

"Dyna pryd cefais fy ngwthio lan ar y shutters, gwaeddodd rhywun rywbeth yn fy wyneb ac yna poeri ataf."

'Rhaid edrych ar sut ni'n cadw pobl yn saff'

Yn dilyn y digwyddiadau hyn cysylltodd Mr Powell â'r heddlu.

Mae'n galw am fwy o fesurau diogelwch i'r rhai sy'n sefyll dros swydd gyhoeddus.

"Nes i ffonio'r heddlu ac o'dd hwnna bach o shambles os fi'n gweud y gwir. Doedden nhw ddim yn gwybod pwy o'n i," meddai.

"Roeddwn i jyst eisiau pwynt cyswllt i drafod y broses o benderfynu beth ddylai symud ymlaen i drosedd go iawn a rhif troseddol.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar sut ni'n cadw pobl yn saff a sut maen nhw'n gweithio gydag ymgeiswyr."

Dywedodd Heddlu Gwent fod yr awdurdod lleol wedi cynnal sesiwn friffio diogelwch ar-lein i bob ymgeisydd ac aelod plaid yng Nghaerffili.

Maen nhw'n dweud bod y "sesiwn wedi darparu canllawiau ar ddiogelwch personol, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i adrodd unrhyw bryderon neu ddigwyddiadau i'r cyngor" ac fe gafodd "cyfeiriad e-bost pwrpasol" ei rannu ar gyfer "unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ystod cyfnod yr ymgyrchu".

Dywedon nhw nad oedd "unrhyw gyswllt wedi dod gan yr ymgeisydd nac aelodau o blaid Reform trwy'r sianel hon i adrodd pryderon diogelwch".

Llinos Medi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Medi yn dweud bod bygythiadau wedi dod "yn fwyfwy amlwg" ers cael ei hethol yn Aelod Seneddol

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol eisiau gweld camau gweithredu yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yng Nghaerffili, wrth i Gymru edrych tuag at etholiad y Senedd ym Mai 2026.

Roedd Llinos Medi yn arweinydd Cyngor Môn rhwng 2017 a 2024 cyn cael ei hethol i San Steffan.

Mae'n dweud ei bod wedi gweld "cynnydd aruthrol" mewn casineb ar-lein ers cael ei hethol yn AS.

Fe brofodd hithau "brofiadau anffodus" yn ystod ei chyfnod yn arweinydd cyngor.

"Roedd yn golygu bo' fi wedi gorfod cael ymgysylltiad gyda'r heddlu ac yn y blaen," meddai.

"Ond ma' rhaid i mi gyfaddef, ers i mi fynd i'r swydd newydd yma ma' hynna 'di cynyddu yn aruthrol ac ma'r bygythiadau yn fwyfwy amlwg ac ma'r ymdeimlad o ofn yn dod yn fwy amlwg yn y swydd."

Sam Kurtz
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Kurtz wedi cyflwyno sawl mesur diogelwch yn sgil ei bryderon

Dywedodd Sam Kurtz, aelod Ceidwadol o'r Senedd, ei fod wedi cael ei gam-drin ar-lein ac, ar un achlysur, wedi derbyn galwadau ffôn parhaus gyda sylwadau hiliol am ei dreftadaeth Almaenig.

Mae ganddo nifer o fesurau diogelwch ar waith, gyda CCTV yn ei gartref yn ogystal â dyfeisiau diogelwch eraill yn ei swyddfa.

"Mae gen i fotymau panig yn fy swyddfa ac mae gen i ddyfais gweithiwr unigol a ddarparwyd gan y Senedd," meddai.

"Gall rhywun o ganolfan alwadau glywed beth sy'n digwydd ac anfon yr heddlu os oes angen i leoliad penodol.

"Mae hyn bellach yn arfer cyffredin ymhlith gwleidyddion yng Nghymru ac yn San Steffan hefyd, ac mae'n dangos efallai nad yw'r cyhoedd yn hollol ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd."

Fe ychwanegodd ei fod yn "cael galwadau wythnosol gan yr heddlu lleol i sicrhau diogelwch fy hun a'm staff, ond i sicrhau bod hynny'n digwydd ar draws Cymru gyfan yn yr etholiad nesaf, mae'n rhaid iddo fod yn flaenoriaeth."

55% o ymgeiswyr wedi profi aflonyddu

Yn ôl arolwg gan y Comisiwn Etholiadol, ar ôl etholiad cyffredinol 2024 roedd 55% o ymgeiswyr wedi profi aflonyddu, bygythiadau neu gamdriniaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae aflonyddu ac annhegwch tuag at ymgeiswyr etholiadol neu'r rhai mewn swydd gyhoeddus yn annerbyniol.

"Mae'r Gweinidog Diogelwch yn arwain gwaith ar draws y llywodraeth, yr heddlu, awdurdodau seneddol a'r Comisiwn Etholiadol i fynd i'r afael â'r gamdriniaeth hon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig