'Effaith ofnadwy' diffyg tâl a gofal ar fferm ger Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Darrell SimesterFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Darrell Simester wedi bod ar goll am 13 blynedd

Mae llys wedi clywed bod aelod o deulu Doran wedi rhoi lifft i Darrell Simester, 44 oed o Kidderminster, pan oedd yn ddigartre a mynd ag e i fferm Cariad.

Hwn, meddai, oedd y tro cyntaf iddo gwrdd â'r ddau, "Dan fawr" a "Dan Ifanc."

Mae Daniel Doran, 67 oed, a David Daniel Doran, 42 oed, yn gwadu cyhuddiadau o orfodi Mr Simester i weithio rhwng 2010 a 2013 yn ddi-dâl ac mewn amodau gwael.

Roedd Mr Simester yn rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Caerdydd.

Llygod mawr

Dywedodd ei fod wedi gweithio ar y fferm am 13 o flynyddoedd rhwng 7am tan 10 neu 11pm bob diwrnod.

Clywodd y llys na chafodd ei dalu ac iddo gael dau ddiwrnod yn unig o wyliau.

Dywedodd wrth y llys iddo orfod cysgu ar soffa mewn sied a heb unrhyw ddillad gwely.

Yn ôl Mr Simester, roedd llygod mawr yn gallu dod i mewn i'r sied o dan y drws.

"Fe stopiodd y broblem pan wnaeth 'Dan Ifanc' osod gwenwyn llygod ond ni chafodd y drws ei drwsio," meddai.

Dywedodd ei fod yn gorfod defnyddio cafn ceffyl i olchi ei hun a honnodd bod cawod wedi ei gosod ar y fferm ar ôl iddo adael.

Brwsh dannedd

Wrth i'r erlynydd John Hipkin ei holi, dywedodd ei fod yn teimlo'n "ofnadwy" am y modd yr oedd yn gorfod ymolchi.

Cafodd llun deintyddol o ddannedd Mr Simester ei ddangos i'r rheithgor.

Gofynnodd yr erlynydd iddo a oedd wedi cael brwsh dannedd tra oedd yn byw ar y fferm. "Na," oedd yr ateb.

Ychwanegodd fod "Dan Ifanc" wedi dweud wrtho am gael whisgi ar gyfer ei ddannodd.

Cyfeiriodd at chwydd ar ei gefn a'r ffaith iddo gael llawdriniaeth er mwyn ei dynnu ar ôl iddo adael fferm Cariad.

Dywedodd wrth y llys nad oedd yn gwybod am ba hyd yr oedd y chwydd ar ei gefn ond ei fod wedi achosi loes.

Mae'r achos yn parhau.