RhAG: disgyblion chweched dosbarth Cymraeg dan anfantais
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion chweched dosbarth sy'n teithio i ysgolion Cymraeg o dan anfantais oherwydd cynnydd mewn ffioedd teithio, yn ôl un grŵp pwyso.
Ac mae BBC Cymru wedi darganfod fod traean o gynghorau yn codi tâl ar ddisgyblion ôl-16 sy'n mynd i ysgol neu goleg.
Yn ôl y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), teuluoedd sy'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg sy'n dioddef fwyaf.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud ei bod nhw'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd am ei bod nhw dan "bwysau ariannol enbyd".
Dewis ysgolion Saesneg?
Saith cyngor sy'n codi tal ar gyfer myfyrwyr ôl-16. Ond mae gwaith ymchwil yn dangos bod o leiaf wyth arall yn ystyried gwneud yn y blynyddoedd nesaf.
Dydy'r cynghorau ddim yn codi'r un pris gyda'r swm yn amrywio o £60 i £418.
Mae Cadeirydd RhAG, Lynne Davies, yn dweud fod polisi Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn y maes yn groes i'w gilydd.
Mae'n poeni hefyd y bydd rhieni yn penderfynu peidio anfon eu plant i ysgolion Cymraeg am fod disgyblion yn aml yn gorfod teithio yn bellach i gael eu haddysg.
"Os ydy'r llywodraeth wir eisiau hybu addysg Gymraeg mae'n hanfodol bod cludiant ar gael i bob plentyn sydd ei angen e prun ai ôl-16 neu beidio ac mae'r polisiau yma yn tanseilio hynny," meddai.
Mae'n cyfaddef fod arian yn dynn ond yn honni na fydd arbedion yn y pen draw gyda'r cynllun presennol.
"Mae'r cynghorau wedi buddsoddi arian fewn i adeiladu'r ysgolion cyfrwng Cymraeg yma. Mae lleihau'r nifer sydd yn mynd atyn nhw yn tanseilio'r buddsoddiad maen nhw wedi gwneud yn y lle cyntaf."
Mae'r grŵp pwyso yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Casnewydd ar ôl i'r sir benderfynu codi tâl ar holl ddisgyblion chweched dosbarth o £347 am ddefnyddio cludiant ysgol.
Dyw RhAG ddim yn credu bod yna ymgynghoriad cyhoeddus addas wedi ei wneud cyn iddyn nhw gyflwyno'r codiad ym mis Medi.
Yn groes i'r mesur
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, hefyd wedi dweud bod ganddi "amheuon cryf" fod y newidiadau gan y cyngor yn mynd yn groes i adran 10 yn y Mesur Teithio.
Mae'r adran honno yn dweud bod rhaid i gynghorau a Gweinidogion Cymru "hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg".
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dweud nad ydi'r cyngor yn gwahaniaethu yn erbyn disgyblion sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a bod y polisi newydd yn sicrhau bod pawb sy'n defnyddio cludiant rhwng eu cartref a'r ysgol yn talu'r un faint.
Yn y gorffennol mae disgyblion chweched dosbarth wedi medru defnyddio cludiant o dan yr un amodau a myfyrwyr iau. Ond doedd hynny ddim yn orfodaeth statudol.
Rwan, wrth i gynghorau wynebu gwasgfa ariannol mae yna dorri nôl ar wasanaethau sydd ddim yn statudol.
Mae Cyngor Casnewydd a Sir Fynwy wedi cynyddu'r tâl ers mis Medi.
'Pwysau ariannol enbyd'
Dywedodd llefarydd o'r Gymdeithas Llywodraeth Leol mai'r toriadau gwaethaf yn y sector cyhoeddus sy'n gyfrifol.
"Mae pob cyngor yng Nghymru yn gorfod ceisio cydbwyso'r toriadau sylweddol i'w cyllideb gyda chynnydd yn y galw am wasanaethau, ac un o ganlyniadau anffodus hynny ydi bod rhai o'r gwasanaethau sydd wedi eu cynnig gan gynghorau lleol yn dechrau dioddef.
"Tra bod cynghorau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu gwasanaethau, mae nifer o wasanaethau sydd ddim yn statudol, fel cludiant ôl-16, yn cael eu rhoi dan bwysau ariannol enbyd.
"Mae llywodraeth leol yn cyrraedd y dibyn o ran y toriadau llym sy'n cael eu gwneud i gyllidebau, a bydd llawer o'r gwasanaethau mae pobl yn disgwyl i'w cyngor gynnig yn cael eu heffeithio wrth i'r toriadau frathu."
Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai penderfyniad cynghorau yw os ydyn nhw am ddarparu cludiant am ddim ar gyfer disgyblion ôl-16.
"Ond mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddelio gyda mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Bydd craffu yn digwydd ar eu polisi trafnidiaeth a'r effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o'r broses monitro a chymeradwyo sydd yn rhan o'r Cynlluniau Strategol."
Mae Ceri Hyde yn byw yng Nghasnewydd gyda'i thri phlentyn. Mae dau ohonyn nhw, Charlotte a Jordan, yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl.
Mam sengl yw Ceri sydd yn derbyn isafswm cyflog. Mae'n cael trafferth i dalu am y bws ysgol ac wedi gorfod benthyg arian er mwyn talu'r taliad cyntaf.
Mae'n dweud ei bod hi wedi cael gwybod na fydd yna grant gan y cyngor i helpu teuluoedd tlawd.
"Dyw e ddim yn arian sydd gen i yn fy nghyllideb," meddai.
"Mae'r cyngor yn dweud y gallwch chi dalu trwy daliadau debyd bob mis ond os nad oes gyda chi'r arian, o lle mae e i fod i ddod?"
Pwysau mawr
Roedd hi'n talu am y tocyn bws ar gyfer Jordan y llynedd. Ond mae na gynnydd wedi bod yn y pris o £45 i £347 eleni.
"Dw i wir ddim yn meindio talu i fy mhlant gael eu cludo i'r ysgol. Be fi'n gwrthwynebu yw'r swm a'r naid o beth o'n i yn talu i beth ydw i yn talu nawr. Ond hefyd edrychwch i'r dyfodol. Y plant yma yw'r dyfodol."
Mae Jordan yn gweithio rhan amser i helpu i dalu costau byw. Mae o hefyd yn cyfrannu at gost y bws ac mae'n dweud bod hyn yn effeithio ar ei addysg.
"Dw i'n gweithio tan un o'r gloch, weithiau dau y gloch yn y bore. Dw i lan chwech. So dw i wedi blino trwy'r dydd yn yr ysgol. A trio neud gwaith ar ben hwnna. Ma fe yn lot. Ma lot o pwysau ar ysgwydd fi. Ond ma rhaid i fi trio helpu fy mam i fod yn onest."
Mae Cyngor Casnewydd wedi dweud bod rhai myfyrwyr eisoes wedi bod yn talu £347 y flwyddyn tra bod cludiant myfyrwyr eraill yn cael ei dalu'n rhannol gan gymhorthdal sy'n dod yn y pendraw gan dalwyr treth y cyngor.
Mae'r cyngor yn mynd ymlaen i ddweud bod rhieni wedi derbyn gwybodaeth ym mis Ebrill y byddai'r newid yn dod i rym ym mis Medi a bod rhieni wedi derbyn y cynnig i dalu drwy daliadau debyd uniongyrchol misol.
Yn ogystal mae'r cyngor yn dweud y bydd cronfa galedi ar gael.