Ailadeiladu llys Tywysogion Gwynedd yn Sain Ffagan
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o ailadeiladu un o lysoedd canoloesol Tywysogion Gwynedd wedi dechrau yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Llys Rhosyr oedd un o lysoedd brenhinol Llywelyn Fawr (1173-1240), oedd yn dywysog Gwynedd yn y 13eg Ganrif, a gafodd ei olynnu gan ei fab Dafydd ap Llywelyn.
Mae'r amgueddfa wedi dweud y bydd ail-adeiladu'r llys yn un o'r prosiectau archeolegol mwyaf heriol i gael ei ddechrau yng Nghymru.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, a phan fydd wedi ei gwblhau bydd plant ysgol a grwpiau yn gallu aros dros nos yno.
Llys Llywelyn
Cafodd Llys Rhosyr ei ddarganfod gan yr archeolegwr Neil Johnstone yn 1992, yn agos i eglwys Niwbwrch, Ynys Môn.
Roedd Tywysogion Gwynedd yn teithio o amgylch eu teyrnas, gan aros mewn llysoedd bychan ar draws yr ardal.
Yn dilyn concwest y Brenin Edward I yn 1282, cafodd Llys Rhosyr ei adael yn wag a'r gred yw bod storm wedi claddu'r safle dan dywod tua 1330.
Ar ôl cael ei ddarganfod 600 o flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth archeolegwyr o hyd i brif neuadd fawr ac adeilad lle byddai ystafelloedd preifat y tywysogion wedi bod.
Yn Sain Ffagan, bydd Llys Rhosyr yn cael ei ailadeiladu, i ddangos sut y byddai'r adeilad wedi edrych yn y cyfnod.
Yn ogystal ag ailadeiladu Llys Rhosyr, mae cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru yn talu am godi adeilad newydd i ddangos hanes Cymru o 230,000 BC, a chodi safle o Oes yr Haearn sydd hefyd o Ynys Môn, Bryn Eryr.