Darrell Simester: Teulu wedi edrych ar fy ôl
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n honni iddo gael ei orfodi gan dad a mab i weithio am 13 blwyddyn ar fferm yng Nghasnewydd wedi dweud wrth y rheithgor bod y dynion wedi edrych ar ei ôl.
Dywedodd Darrell Simester, 44, bod Daniel Doran, 67, a'i fab David Daniel Doran, 42, wedi edrych ar ei ôl, wrth gael ei holi yn Llys y Goron Caerdydd.
Pan ofynnwyd iddo gan blismon os oedd wedi ei orfodi i fyw ar fferm Cariad, dywedodd: "Na, maen nhw'n edrych ar fy ôl."
Mae'r dau ddyn yn gwadu cyhuddiad o orfodi Mr Simester i weithio.
'Brawychus'
Clywodd y llys bod Mr Simester wedi ei godi o ochr y ffordd gan y teulu Doran a'i gludo i fferm Cariad.
Dywedodd Mr Simester ei fod yn "frawychus", a'i fod wedi byw mewn carafan ac ymolchi mewn cafn ceffyl dros 13 blynedd.
Yn ôl Mr Simester, sydd o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon, fe wnaeth barhau i weithio ar ôl torri ei glun.
Fe ofynnodd Kevin Molloy ar ran yr amddiffyniad os oedd Mr Simester yn cofio plismon yn siarad gydag o ar y diwrnod iddo adael y fferm.
Dywedodd Mr Molloy bod Mr Simester wedi gwadu bod unrhyw un wedi ei fygwth neu wedi ymosod arno.
Dywedodd Mr Molloy: "Dywedodd y plismon 'Mae rhywbeth o'i le, rwyt ti'n ddiogel nawr, gei di ddweud beth sy'n mynd ymlaen. Wyt ti wedi dy orfodi i fyw yma?'
"Dy ateb di oedd: 'Na, maen nhw'n edrych ar fy ôl.'
"Oedd hynny am fod y teulu Doran yn edrych ar dy ôl?" meddai Mr Molloy.
Cytunodd Mr Simester.
Mae'r cyhuddiadau yn erbyn y tad a'r mab yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 2010 a 2013.
Ond, clywodd y llys bod Mr Simester wedi bod ar goll ers 13 mlynedd, yn byw ar y fferm.
Pan ddaeth ei deulu o hyd i Mr Simester, roedd yn byw mewn carafan gafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu fel "anaddas i berson fyw ynddo".
Mae'r achos yn parhau.