Cofio'r Gwrthwynebwyr Cydwybodol

  • Cyhoeddwyd
Rydym ni yn cofio'r milwyr aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr, ond beth am y Gwrthwynebwyr Cydwybodol?
Disgrifiad o’r llun,

Rydym ni yn cofio'r milwyr aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr, ond beth am y Gwrthwynebwyr Cydwybodol?

Eleni mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i gofio aberth miloedd o filwyr o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mewn blog i Cymru Fyw, mae Jane Harries, cydlynydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, dolen allanol, yn dadlau bod angen cofeb barhaol hefyd i gofio'r rhai wrthododd ar sail cydwybod i fynd i ryfela:

Hunllefus

Blwyddyn y Cofio ydi 2014 Cofio'r 16 miliwn a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf - yn filwyr ac yn ddinasyddion. Cofio gwewyr y golled i deuluoedd, pentrefi a chymdeithasau cyfan ar draws Ewrop. Cofio am y profiadau hunllefus a gafodd y bechgyn ifainc yn y ffosydd - sŵn byddarol y ffrwydron, y llygod mawr a'r ofn, heblaw sôn am yr erchyllterau yr oeddynt yn dystion iddynt. Mae hi'n briodol i ni gofio ac edifarhau am y golled.

Ffynhonnell y llun, Jane Harries

Fodd bynnag, mae'na rai nad oes cymaint o sôn wedi bod amdanynt, sef y rhai a wrthododd ymladd ar sail cydwybod. Canran gymharol fach oeddynt. Fe aeth y rhan fwyaf pan ddaeth yr alwad. Ac eto, a ydy hi'n hen bryd i ni wybod mwy am y rhain, ac am y ffordd y cawsant eu trin?

Dewrder?

Mae ystyried hanesion gwrthwynebwyr cydwybod yn sbarduno llawer iawn o gwestiynau - am y ffordd yr ydym yn ymwneud â phobl nad sydd yn dilyn y llu ond yn dweud eu barn yn ddi-ofn, hyd yn oed pan fydd hyn yn groes i 'ddoethineb' y cyfnod; am yr hyn rydym yn ei ddathlu fel dewrder; am seiliau democratiaeth a thraddodiad heddychol Cymru fel gwlad.

Pam, felly, y dylem gofio gwrthwynebwyr cydwybod?

Y rheswm cyntaf, yn fy marn i, yw oherwydd eu dioddefiannau - a dioddefiannau eu teuluoedd. Mae'n wir na welon nhw erchyllterau'r ffosydd. Ar y llaw arall anfonwyd llawer ohonynt yn ystod y Rhyfel Mawr i'r carchar lle cawsant driniaeth annynol. Mae rhai ohonynt yn adnabyddus i ni, wrth gwrs, megis George M Ll Davies a'r bardd Gwenallt. Cafodd Ithel Davies ei garcharu ym Mharc Cinmel lle torrwyd ei drwyn gan swyddog.

Amser caled

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Carchar Dartmoor
Disgrifiad o’r llun,

Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Ngharchar Dartmoor, 1917

Mae Catherine James, Crynwraig o Ddolgellau, yn adrodd fel yr anfonwyd ei thad i Dartmoor lle bu rhaid iddo dorri nifer benodedig o gerrig bob diwrnod fel cosb. Fe wnaeth e oroesi dim ond oherwydd help gan gyd-garcharor. Fe wnaeth rhai wrthod ymladd tra ar yr un pryd yn credu y byddent wedyn yn cael eu hanfon i Ffrainc i'w dienyddio fel bradychwyr. Rhoddwyd stop ar yr arfer hwn yn gynnar yn y rhyfel. Cafodd teuluoedd y gwrthwynebwyr amser caled hefyd. Byddai pobl yn poeri arnynt yn y stryd ac yn anfon plu gwynion atynt - symbol o lwfrdra.

Dylem ni gofio amdanynt hefyd am eu dewrder. Ydy, mae hi'n beth dewr i'w wneud i sefyll yn gadarn am eich daliadau pan fydd yr holl gymdeithas yn eich erbyn, wrth wybod bod sarhad a charchar yn eich aros, a sgîl-effeithiau i'ch teulu. Dywedodd Catherine James pa mor galed oedd hi i'w thad gael gwaith fel athro, hyd yn oed ar ôl y rhyfel. Doedd neb eisiau rhywun oedd wedi bod yn y carchar.

Rhan o draddodiad

Disgrifiad o’r llun,

George M LL Davies, un o wrthwynebwyr cydwybodol amlycaf y Rhyfel Mawr

Yn drydydd, mae heddychiaeth yn rhan o draddodiad hanesyddol Cymru - yn enwedig ymhlith y capeli anghydffurfiol. Mae'n dda cofio am yr elfen hon yn ein hanes ac am ffigyrau megis Gwenallt a Niclas y Glais. I ba raddau mae'n capeli yn glynu wrth y traddodiad hwn heddiw - ac a ydy hyn yn hysbys i'r gymdeithas gyfoes yng Nghymru yn gyffredinol?

Yn olaf, mae lleisiau unig y gwrthwynebwyr hyn yn ein sbarduno i feddwl eto heddiw am foesoldeb rhyfel, a beth mae'n ei gyflawni. A ydy hi'n bosibl cyrraedd nod gyfiawn trwy drais neu a ydym ni - trwy ddefnyddio trais - yn diraddio ein hunain i'r un lefel â'r drwg yr ydym yn ceisio ei ddifa?

Gosod esiampl

A ydym mewn gwirionedd yn creu cylch dieflig? Beth am ddulliau eraill i ddatrys anghydfod: trafod neu ddiplomyddiaeth neu ddefnyddio cyrff megis y Cenhedloedd Unedig - dulliau y gweithiodd Henry Richard, Cymro arall noddedig, yn ddiwyd i'w rhoi ar y map?

Wrth i awyrennau Prydain baratoi eto i gymryd rhan mewn cyrch bomio yn Irac, gadewch i ni gymryd munud i ystyried rhai o'r cwestiynau hyn.

Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol i ryfel? Awyrennau Prydain yn paratoi i ymosod ar dargedau yn Irac

Am y rhesymau uchod i gyd credaf y dylem ni gofio gwrthwynebwyr cydwybod. Maent yn esiampl i ni, ac yn ein herio i feddwl o ddifrif am ein gwerthoedd a sut mae'n gweithredoedd yn adlewyrchu'r rhain - ai peidio. Fel Cydlynydd Cymdeithas y Cymod rwy yn llwyr gefnogi sefydlu diwrnod i gofio Gwrthwynebwyr Cydwybod yng Nghymru, hefyd y syniad o godi cofeb parhaol iddynt. Maen nhw yn haeddu hynny.

Ydych chi'n cytuno gyda safbwynt Jane Harries? Cysylltwch gyda ni cymrufyw@bbc.co.uk.

Gallwch ddysgu rhagor am y gwrthwynebwyr cydwybodol drwy wylio Gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr sydd i'w weld ar Clic, dolen allanol, gwasanaeth ar-alw S4C.