Dylanwadau Karl Jenkins
- Cyhoeddwyd
Wrth i Tŷ Cerdd ddatgelu mai Karl Jenkins fydd ei noddwr newydd, cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs efo'r cyfansoddwr ynglŷn â'i ddylanwadau cerddorol
Sut ddatbygodd eich diddordeb mewn cerddoriaeth?
"Wel roeddwn i'n ffodus fod fy nhad yn gerddor. Roedd o'n athro cerdd, yn organydd yn y capel ac yn arwain corau, felly roedd ein tŷ ni yn llawn cerddoriaeth. Dwi ddim yn credu mod i wedi datblygu diddordeb ond roedd cerddoriaeth wastad yna, boed ar ffurf recordiad neu berfformiad byw. Roeddwn i'n ymddiddori felly pan oeddwn i'n ifanc iawn."
Cerddoriaeth pwy oeddech chi'n hoff ohono pan yn ifanc?
"Fel roeddwn i yn tyfu i fyny mi ddysgais i chwarae'r piano gyda fy nhad a chyn i mi ddechrau yn yr ysgol ddechreuais i ddysgu chwarae'r recorder. Pan es i Ysgol Ramadeg Tregŵyr mi wnes i chwarae'r oboe a thrwy hynny mi gefais fy nerbyn i Gerddorfa Ieuenctid Cymru. Cefais fy magu yn sain cerddoriaeth glasurol felly roedd fy arwyr cynnar yn debyg iawn i rai fy nhad. Roedden ni'n dau yn hoff o'r mawrion fel Bach, Mozart, Beethoven ac hefyd cyfansoddwyr fel Bartok a Stravinsky.
"Ond yn fy arddegau mi wnes i ddarganfod cerddoriaeth jazz a darganfod nad oedd cerddoriaeth glasurol gyfoes yn apelio ata i. Mae 'na nifer o artistiaid yn y categori yma, yn eu plith y trwmpedwr Miles Davis a'r sacsoffonydd John Coltrane. Er hynny dwi'n ceisio cadw meddwl agored am bob arddull cerddorol a dydw i ddim yn awyddus iawn i osod cerddoriaeth mewn categorïau."
O ble rydych chi'n cael eich ysbrydoliaeth i gyfansoddi?
"Dydi ysbrydoliaeth ddim yn air dwi'n ei ddeall, i fod yn onest. Roedd nifer o'r cyfansoddwyr mawr yn sgwennu cerddoriaeth fel oedd y galw amdano. Roedd Bach yn sgwennu cantatas ac roedd Mozart yn sgwennu operâu neu beth bynnag. Mae llawer o fy ngherddoriaeth yn cael ei sgwennu fel mae'r galw hefyd felly byddai'n eistedd i lawr a sgwennu 'chydig bob dydd.
"Dwi'n tueddu i eistedd wrth yr allweddellau ac arbrofi gyda gwahanol synau. Mi fyddai'n cadw'r syniadau da a'u datblygu ond dwi'n taflu'r rhai dwi ddim yn hoff ohonyn nhw. Dydw i ddim yn disgwyl i fellten daro - dydi hynny yn fy mhrofiad i byth yn digwydd. Mae'n gwestiwn o weithio a datblygu syniadau ac yna amau'r broses yn dod yn haws. Ar hyn o bryd dwi'n cael dyddiau da a dyddiau gwael. Ond fel rheol gyffredinol, mae rhywun yn dysgu sut i gyrraedd pen y daith."
Mae 'na ran ganolog i offerynnau taro yn nifer o'ch gweithiau. Pam eu bod mor bwysig?
"Dwi'n meddwl bod hynny wedi deillio o fy nghefndir jazz a fy magwraeth. Rydw i bob amser eisiau defnyddio offerynnau taro yn fwy fel curiad, fel sy'n digwydd mewn jazz a cherddoriaeth roc, ac mae'r llinellau lleisiol yn lliwio'r darn. Felly mae'n deillio o hynny dwi'n credu.
"Mae gwahanol ddiwylliannau'r byd a cherddoriaeth ethnig wedi dylanwadu arna i felly rydw i wedi buddsoddi'n helaeth mewn offerynnau taro ethnig, yn enwedig rhythmau De America ac offerynnau taro jazz.
"Dros y blynyddoedd rydw i wedi gweithio mewn gwahanol feusydd, gan gynnwys cerddoriaeth hysbysebu, ac yn arbennig â bandiau sy'n cyfuno cerddoriaeth jazz a roc - felly mae'r dylanwadau yma i gyd yn mynd i mewn i'r pair syniadau ac yn dod allan ohono unwaith ydw i wedi gorffen creu.
"Mewn brawddeg, rydw i'n ceisio creu cerddoriaeth wedi ei seilio ar egwyddorion clasurol ond rydw i wastad yn edrych i fenthyca neu ddefnyddio diwylliannau eraill ar gyfer sbardun, syniadau ac offeryniaeth. Mae hi mor syml â hynny a dweud y gwir."
Pa un o'ch gweithiau ydych chi fwyaf balch ohono?
"Mae hwnnw'n eithaf anodd i'w ateb gan ei bod hi'n anodd mesur. Yn arferol mi fyddwn i'n dweud The Armed Man oherwydd mai'r gwaith hwnnw ydi'r mwyaf poblogaidd ac mae o wedi cael ei berfformio dros 2,000 o weithiau. Mae o i'w weld yn cyffwrdd pobl tu hwnt i'r gerddoriaeth ei hun.
"Ond rydw i'n credu bod yna well cerddoriaeth yn fy Requiem nac yn The Armed Man. Rydw i yn hoff o The Peacemakers ac Adiemus hefyd am resymau gwahanol. Does gen i ddim ffefryn a dweud y gwir. Mae nhw i gyd yn blant i mi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ac rydw i'n ei hoffi nhw - neu eu casáu(!!) - mewn gwahanol ffyrdd"
Ydych chi'n gweithio ar brosiectau mawr ar hyn o bryd?
"Y prosiect mawr nesaf sydd o mlaen i yw darn i nodi 50 mlynedd trychineb Aberfan yn 1966. Bydd y garreg filltir drist honno yn cael ei chofio yn mis Hydref 2016 felly rydw i'n sgwennu gwaith awr o hyd ar gyfer cerddorfa, côr oedolion a chorws plant. Y bardd Mererid Hopwood sy'n sgwennu'r geiriau ac mae hi'n fraint cael y cyfle i sgwennu'r gerddoriaeth."
Pam fod Tŷ Cerdd mor bwysig i ddatblygiad cerddoriaeth yng Nghymru?
"Mae'n bwysig gan bod angen hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig. Mae angen i bob gwlad fechan hyrwyddo y dreftadaeth o fewn eu diwylliant. Mae'r rhan fwyaf o'r gerddoriaeth sy'n cael ei hyrwyddo yn deillio o'r traddodiad clasurol, ac mae angen iddo gael llais, felly dwi'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Cerddoriaeth yw ein treftadaeth. Hyd yn oed os yw e, yn gyffredinol, wedi deillio o'r traddodiad clasurol, os yw e wedi ei ddylanwadu gan ddiwylliant arall, hyd yn oed diwylliant cynhenid Cymreig, mae'n bwysig, felly rwy'n credu bod gan Tŷ Cerdd rôl bwysig i'w chwarae."