Ateb y Galw: Tudur Owen
- Cyhoeddwyd
Mae Tudur Owen wedi ateb yr alwad! Mae'r digrifwr a'r cyflwynydd wedi ateb nifer o gwestiynau y mae Cymru Fyw wedi eu gofyn iddo.
Mi wnewch chi ddysgu mwy am y gŵr o Fôn ac mi gewch chi wybod pwy mae Tudur wedi ei ddewis i dderbyn yr her wythnos nesa':
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Edrych ar fy nhraed a meddwl 'mod i'n licio fy sgidia newydd yn fawr iawn.
Pwy oeddat ti'n ffansio pan yn ieuengach?
Agnetha (yr un gwallt melyn) yn ABBA a Lyndsey Wagner (Bionic Woman).
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnatti erioed?
Chwerthin tra'n darllen mewn gwasanaeth ysgol a llwyth o snot yn hedfan allan o fy nhrwyn.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Fyddai'n crio o leiaf unwaith bob diwrnod.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dweud celwydd.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Llundain.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson gynta' i mi berfformio yn y Comedy Store yn Llundain - gwireddu breuddwyd.
Oes gen ti datŵ?
Na.
Beth yw dy hoff lyfr?
Catch 22.
Pa ddilledyn fyddetti'n methu byw hebddo?
Fy Converses. Hanfodol i gomedïwr canol oed sy'n smalio'i fod o'n ifanc.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?
'Divergent' hefo fy merch. Oedd o'n well na nes i feddwl.
Dy hoff albwm?
Queen - A Day At The Races.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin- pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs - ac mae'n rhaid fod 'na gig ynddo fo.
Pa un sydd orau, gyrru neges tecst neu ffonio?
Ffonio ffrind - tecstio teulu.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Huw Edwards a chael rant ar newyddion 10 am y byd a'i broblemau.
Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?
Rhys Meirion. Pob lwc Rhys. Mi fydd ei angen o arnat ti!