Yfed a gyrru: Arestio plant 13 oed
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau diweddaraf yr heddlu'n dangos bod plant mor ifanc â 13 oed wedi cael eu dal yn yfed a gyrru yng Nghymru.
Fe gafodd cyfanswm o 493 o bobl dan 18 eu harestio ledled Cymru rhwng 2008 a 2013, ac roedd 114 o'r rheiny o dan 16 oed.
Heddlu'r De oedd gan y nifer mwyaf, sef 219. Yn ogystal, roedd 'na gynnydd yn nifer yr achosion o arestio o'r fath rhwng 2012 a 2013.
Ledled Prydain, fe gafodd cyfanswm o 6,558 o bobl dan 18 eu dal yn ystod yr un cyfnod.
Y FFIGYRAU YNG NGHYMRU 2008-2013
Fe arestiodd Heddlu'r Gogledd 149 o rai dan 18 oed am yfed a gyrru. O'r rhai hynny, roedd 21 o dan 16 oed. 14 oed oedd y person ieuengaf i gael ei ddal.
Yn Ne Cymru, fe gafodd 219 o rai dan 18 oed eu harestio am yfed a gyrru. Roedd 59 o dan 16 oed, a'r ieuengaf yn 13 oed.
50 o bobl dan 18 oed gafodd eu harestio am yfed a gyrru gan Heddlu Dyfed-Powys. Roedd 15 o'r rheiny dan 16 oed, a 15 oed oedd yr ieuengaf.
Fe arestiodd Heddlu Gwent 75 o rai dan 18 oed am yfed a gyrru. Roedd 19 o dan 16 oed, a 15 oed oedd y person ieuengaf.
Fe gafodd y ffigyrau eu rhyddhau yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Nextbase - cwmni sy'n cynhyrchu camerâu i'w rhoi mewn ceir.
Yn ôl llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth, mae 'na waith ar droed i sicrhau cosbau llymach i rai sy'n yfed a gyrru, gan gynnwys defnyddio profion anadl fel tystiolaeth yn y llys, a rhwystro hawl gyrwyr i fynnu aros nes cyrraedd gorsaf yr heddlu i gymryd prawf gwaed neu wrin - gan y gallen nhw fod wedi sobri erbyn hynny.
Ychwanegodd: "Mae gyrru dan oed yn anghyfreithlon, a ddylai neb o dan 17 fod tu ôl i lyw car.
"Mae 'na gyfreithiau llym yn eu lle i fynd i'r afael â rhai sy'n cael eu dal yn gyrru heb drwydded."