Ymddiriedolaeth: Rhybudd diswyddo posib
- Cyhoeddwyd
Mae'r pum aelod o staff sy'n gweithio ar y prosiect i adfer Castell Aberteifi wedi cael rhybudd diswyddo posib.
Roedd y cynllun gwerth £12 miliwn i adfer y safle fod i gael ei gwblhau ddiwedd eleni, gyda'r agoriad swyddogol yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2015.
Mewn datganiad dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan, Jann Tucker: "Mae'r cam gwerth £12 miliwn i ddatblygu Castell Aberteifi nawr yn dirwyn i ben.
"Er mwyn paratoi ar gyfer yr agoriad yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf mae strwythur newydd ar gyfer staffio wedi ei lunio.
"Rydym yn annog y staff presennol i wneud cais am swyddi newydd."
Fe wnaeth Ms Tucker wadu honiadau bod yna orwario wedi bod ar y prosiect. Dywedodd mai'r noddwyr oedd wedi annog y newidiadau diweddaraf, yn hytrach nag Ymddiriedolaeth Cadwgan.
"Mae hyn yn rhan o'r cynllun busnes gwreiddiol ac mae'n gam sydd wedi cael ei gytuno gan ein noddwyr."
Mae'r safle 900 mlwydd oed yn cael ei ddatblygu fel "cyfleuster amlbwrpas" ar gyfer y gymuned.
Fe fydd y castell ar ei newydd wedd yn cynnwys llety, canolfan dreftadaeth a bwyty.
Mae'r ymddiriedolaeth sydd wedi'i sefydlu er 1999 i achub Castell Aberteifi wedi sicrhau £4.7 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £4.3 miliwn oddi wrth Gronfa Ddatblygu Rhanbarthau Ewrop.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012