Achos Doran: Mab yn euog, tad yn ddieuog
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r dynion sydd wedi ei gyhuddo o orfodi dyn i weithio am 13 o flynyddoedd heb dâl wedi pledio'n euog yn Llys y Goron Caerdydd.
Roedd David Daniel Doran, 42, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn wreiddiol, ond newidiodd ei ble wrth i'r amddiffyniad ddechrau cyflwyno eu hachos.
Cafwyd ei dad, Daniel Doran, 67, yn ddieuog wedi i'r Goron benderfynu nad oedd eisiau parhau â'r achos yn ei erbyn.
Roedd Darrell Simester, 44, sydd o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon yn wreiddiol, wedi bod yn byw mewn carafán oedd mewn cyflwr gwael iawn ar fferm Cariad yn Llanbedr Gwynllŵg ger Casnewydd.
Pan ddaeth ei deulu o hyd iddo roedd mewn cyflwr truenus, ac roedd ganddo haint ar ei ysgyfaint a briwiau ar ei draed.
Dywedodd Mr Simester ei fod wedi cael ei godi yn y car gan y teulu Doran wrth deithio o dde Cymru i Kidderminster yn 2001.
Anafiadau
Clywodd y llys bod Mr Simester yn cael dau bryd o fwyd y dydd, ac am dros ddegawd nid oedd wedi cael sebon i'w ddefnyddio nac wedi defnyddio brwsh dannedd.
"Roeddwn i'n defnyddio cafn y ceffyl i ymolchi ynddo," dywedodd Mr Simester.
Dywedodd y dyn 44 oed ei fod wedi parhau i weithio ar y diwrnod ar ôl iddo dorri asgwrn ei glun.
Ond dywedodd y barnwr, Neil Bidder QC nad oedd unrhyw dystiolaeth o fygythiadau treisgar tuag at Mr Simester.
Penderfynodd y Goron i beidio â pharhau gyda'r achos yn erbyn Daniel Doran.
Dywedodd yr erlynydd John Hipkin: "Rydyn ni wedi ystyried yr achos wrth ymgynghori gyda'r teulu Simester ac ni fydd Prif Erlynydd y Goron a'r Goron yn ceisio am ddyfarniad yn erbyn y diffynnydd cyntaf."
Dywedodd Catrin Attwell o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Dros nifer o flynyddoedd, fe wnaeth David Daniel Doran fanteisio ar y ffaith bod Darrell Simester yn agored i niwed.
"Mae'r achos yn dangos bod caethwasiaeth fodern yn dal i fodoli yn ein cymunedau lleol. Dwi'n gobeithio y bydd ple euog heddiw yn gymorth i Darrell Simester a'i deulu wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen gyda'u bywydau."
Cafodd y dedfrydu ei ohirio er mwyn paratoi adroddiadau.