Ateb y Galw: Rhys Meirion
- Cyhoeddwyd
Wythnos yma Rhys Meirion sy'n ateb y galw! Os cofiwch chi mi gafodd o'i enwebu gan y digrifwr Tudur Owen i ateb cwestiynau Cymru Fyw. Mi gewch chi gyfle i ddod i nabod y tenor yn well a chael gwybod pwy mae Rhys wedi ei enwebu i dderbyn yr her yr wythnos nesa.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy nghof cyntaf yw mynd i nôl fy chwaer Elen pan gafodd ei geni ym Mangor yn 1969. Chydig dros dair oed ond dwi'n cofio'r cyffro.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Blondie a Olivia Newton-John.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cael un o fy eiliau wedi eu shafio i ffwrdd ar daith rygbi a pharti pen-blwydd priodas 25ain Mam a Dad rhyw dridiau wedyn!!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Ar ôl canu ym Mhorth Menin fis Awst newydd fod.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n cnoi fy ngwinedd. Wedi gwneud ers yn hogyn ar ôl gweld dad wrthi - mae Osian y mab wrthi hefyd.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Newydd fod i Budapest, hyfryd iawn. New York a Sydney yn ddinasoedd gwych!!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Pan ges i gyfarfod â Tom Jones, ac yna mynd i barti tîm rygbi Cymru pan enillon nhw'r gamp lawn ddiwethaf.
Oes gen ti datŵ?
Nagoes, dim diddordeb!!
Beth yw dy hoff lyfr?
Does gen i ddim hoff lyfr - fydda i ddim yn darllen nofelau, ond dwi wrth fy modd efo hunangofiannau yn ymwneud â chwaraeon.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Yr hen fest!! Dioddef o gefn drwg os na fyddai'n gwisgo fest yn y gaeaf!!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?
Avatar.
Dy hoff albwm?
White Album y Beatles, Queen's Greatest Hits a Goreuon Meic Stevens.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin- pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs! Steak neu Fajitas.
Pa un sydd orau, gyrru neges tecst neu ffonio?
Ffonio bob amser. Be' sy'n bod ar sgwrs???
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Rory McIlroy er mwyn i mi allu taro pêl golff yn syth ac yn bell am unwaith a phrofi'r wefr!!
Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?
Elin Fflur - pob lwc Elin!