Plant mewn gofal iechyd meddwl 'angen cynrychiolydd'
- Cyhoeddwyd
Dylai plant a phobl ifanc gael cynrychiolydd annibynnol os ydyn nhw'n cael eu trin ar ward iechyd meddwl i oedolion, yn ôl canllawiau newydd y Gwasanaeth Iechyd.
Mae'n disgrifio'r amgylchiadau "prin" pan y gall cleifion dan 18 gael eu trin gan wasanaethau oedolion.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn beirniadaeth am achosion "amhriodol" o blant yn cael eu rhoi yng ngofal gwasanaethau i oedolion.
Clywodd ymchwiliad gan BBC Cymru ym mis Mawrth gan arbenigwyr oedd yn dweud bod gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc (CAMHS) mewn argyfwng ac yn dioddef oherwydd diffyg staff.
'Risg i blant'
Mae Llywodraeth Cymru i fod i gael gwybod o fewn 24 os yw plentyn yn cael ei roi mewn ward i oedolion.
Dywedodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygaeth Gofal iechyd Cymru ym mis Rhagfyr 2013 bod "plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu risg oherwydd mynediad amhriodol i wardiau iechyd meddwl i oedolion".
Mae gweinidogion yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i fyrddau iechyd.
Mae'r canllawiau yn dweud mae "rhywbeth prin" dylai fod yr achlysuron o blant ar wardiau oedolion.
Mae rhai adegau pan mae'n addas, pe bai'r claf dros 16 ac yn ddigon aeddfed i ddweud eu bod nhw'n dymuno cael eu trin ar ward oedolion.
Ym mhob achos o'r fath, dylai bod gan blant gynrychiolydd annibynnol.
'Amgylchiadau eithriadol'
Mae'r ddogfen yn cydnabod bod gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn fach a bod "eu gallu i gynnig gwasanaeth llawn allan o oriau wedi ei gyfyngu".
Ond mae'n ychwanegu mai "mewn amgylchiadau eithriadol" yn unig y dylai plant sydd mewn argyfwng gael eu rhoi yng ngofal gwasanaethau oedolion.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Mae Llywodraeth Cymru yn datgan yn glir y dylai plant sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty i ar gyfer cyflwr iechyd meddwl gael eu gosod yn yr amgylchedd mwyaf addas sy'n ystyried eu hoedran a'u hanghenion datblygu.
"Mae'r canllawiau drafft yn gosod ein disgwyliad y dylai derbyn person ifanc i uned cleifion mewnol fod yn beth prin iawn.
"Rydyn ni wedi buddsoddi mewn CAMHS dros nifer o flynyddoedd i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys £42m ar gyfer unedau cleifion mewnol yn y gogledd a'r de.
"Rwy'n disgwyl i'r byrddau iechyd sicrhau bod gwasanaethau addas at y diben ar gael i blant a phobl ifanc, bod gofal yn cael eu hintegreiddio ar draws gwasanaethau a bod gwasanaethau cleifion mewnol yn ystyried anghenion plant a phobl ifanc unigol, ac yn datblygu gwasanaethau i ddiwallu'r anghenion hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013