Iechyd meddwl: Plant 'mewn perygl'

  • Cyhoeddwyd
Huw Vaughan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Thomas wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i'r llywodraeth

Mae plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl oherwydd diffygion o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl yng Nghymru, yn ôl archwilydd cyffredinol Cymru.

Yn ôl Huw Vaughan Thomas, cyd awdur adroddiad newydd, mae cynnydd wedi cael ei wneud dros y tair blynedd ddiwethaf. Ond mae Llywodraeth Cymru angen gwneud llawer mwy i fynd i'r afael a'r sefyllfa.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Darren Millar wedi dweud fod y sefyllfa bresennol yn "gwbl annerbyniol".

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yr adroddiad yn cael eu drafod mewn pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

'Angen lleihau'r risgiau'

Yn ôl yr adroddiad, sy'n ganlyniad i arolygiad ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, does dim digon wedi cael ei wneud i amddiffyn plant a phobl ifanc ers cyhoeddiad yr adroddiad diwethaf o'i fath yn 2009.

Mae cynnydd wedi bod o ran diwygio polisïau, gwella'r system hyfforddi ac ehangu gwasanaethau cefnogaeth o fewn cymunedau.

Ond does dim digon wedi cael ei wneud mewn meysydd eraill sy'n golygu fod plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Er gwaethaf y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r pryderon yn ymwneud â diogelwch a godwyd yn adroddiad 2009, mae plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl.

"Felly mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa'n fwy grymus i sicrhau bod byrddau iechyd yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc ac sy'n lleihau'r risgiau iddynt."

Diffygion

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mr Drakeford yn trafod yr adroddiad mewn pwyllgor yn y flwyddyn newydd

Un o'r problemau yw eu bod yn cael eu rhoi mewn wardiau amhriodol gydag oedolion.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw gwybodaeth yn cael ei rannu gan staff, fod dyletswyddau diogelu ddim yn cael eu gwneud bob tro a bod rhai arferion anniogel yn cael eu dilyn wrth ryddhau cleifion.

Yn ogystal mae cleifion yn aml yn cael eu gyrru i ardal sy'n bell o'u cartref ar gyfer triniaeth gan mai dim ond dwy uned arbenigol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) sydd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ynglŷn â pha gamau gall y llywodraeth eu cymryd er mwyn gwella'r sefyllfa, gyda'r gobaith o leihau'r risg i bobl ifanc sy'n cael eu rhoi mewn wardiau oedolion ac i wella arferion diogelwch.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi beirniadu'r llywodraeth am y ffaith fod plant yn parhau i wynebu peryglon o fewn y system iechyd meddwl.

'Hollol annerbyniol'

Dywedodd Darren Millar: "Er gwaethaf y camau a gymerwyd gan GIG Cymru i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a amlygwyd yn 2009, mae'n amlwg o adroddiad dilynol heddiw bod plant a phobl ifanc sy'n cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl.

"Mae hyn yn hollol annerbyniol."

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Ers fis Mawrth 2013 mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi bod yn cadeirio cyfarfodydd chwarterol gyda is-gadeiryddion sefydliadau'r GIG er mwyn trafod gwasanaethau iechyd meddwl.

"Bydd y cyfarfod nesaf yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Adroddiad heddiw fydd ar frig yr agenda er mwyn cyflymu cynydd ar gyfer plant a phobl ifanc."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol