Sali Mali a Hwyl y Celfyddydau
- Cyhoeddwyd
Mae'r actores Rebecca Harries yn wyneb cyfarwydd ar deledu ac yn y theatr a bydd miloedd o blant Cymru yn ei nabod fel perchennog caffi enwocaf Cymru - Caffi Sali Mali.
Mewn blog i BBC Cymru Fyw mae Rebecca yn trafod sut y gall mwynhau'r celfyddydau yng nghwmni eich teulu newid eich bywyd am byth:
Y trip wnaeth newid fy mywyd
Un o fy atgofion cyntaf o wneud unrhywbeth arty oedd ein trip teuluol i Theatr y Grand, Abertawe i weld Ryan Davies yn y panto. Roedden ni yn cael amser bendigedig ac roedd y sioe yn gwneud i ni chwerthin tan yr oedden ni'n sâl.
Ar y pryd wyddwn i ddim pa mor bwysig fyddai'r profiad yn fy mywyd.
Rwy'n cofio eistedd yno am y tro cyntaf, yn gafael yn llaw fy mam wrth i'r golau ddiffodd, ddim yn siŵr iawn beth i'w ddisgwyl... ac yna'r gerddoriaeth yn dechrau, y golau llachar a'r hud a lledrith yn digwydd.
Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'r cyffro 'run fath i fi ac mae'r hud yn dal i fy swyno.
Rhyddid mynegiant
Mae'r celfyddydau, yn enwedig y theatr, wedi bod yn bwysig i mi erioed, oherwydd fel person eitha' swil, fe roddodd e ryddid i mi i fynegi fy hun mewn ffyrdd roeddwn i'n ffeindio yn anodd i'w wneud gystal yn fy mywyd o dydd i ddydd.
Dwi'n credu bod rhyddid mynegiant yn rhan annatod a hanfodol o bob agwedd o'r celfyddydau. Mae'n un o'r prif resymau pam fy mod o'r farn fod Gŵyl Gelfyddydau i'r Teulu yn hollbwysig.
Alla i ddim meddwl am rywbeth mwy bendigedig na chael eich cyflwyno i brofiadau celfyddydol newydd gyda'r bobl sy'n gwneud i chi deimlo fwya' diogel wrth eich hochr ac yn rhannu'r profiad gyda chi.
Fe allen nhw roi'r hyder i chi i fod yn chi'ch hun o flaen pobl 'dych chi ddim yn nabod, mewn sefyllfa sydd yn newydd i chi.
Effaith bositif
Does gen i ddim plant fy hun, er y byddai'n 'benthyca' fy neiaint yn aml, ond mae gen i bron i chwarter canrif o brofiad o weithio ar deledu ac mewn cynhyrchiadau theatrig ar gyfer plant a'u teuluoedd, felly rwy wedi gweld drostaf fy hun yr effaith bositif y gall y celfyddydau ei gael.
Mae'n rhoi mwy o hunan-hyder i blant (ac oedolion!) ac yn rhoi cyfle i'w dychymyg garlamu yn ogystal â rhoi rhyddid iddyn nhw fynegi eu hunain, efallai, trwy gerddoriaeth, celfyddyd, dawnsio neu sgwennu. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i ddysgu sut i weithio yn gynhyrchiol fel rhan o dîm, ac yn fwya' pwysig, i gael lot fawr o hwyl tra'n ei wneud.
Sêr y dyfodol?
Pwy â ŵyr efallai y gallwch gael eich ysbrydoli i'r fath raddau fel bod y profiad o fwynhau'r celfyddydau gyda'ch teulu yn newid eich bywydau? Falle y byddwn ni'n sôn mewn rhai blynyddoedd am y Darcy Bussell, Damian Hirst, Judy Dench neu hyd yn oed y Mozart newydd...