Targed canser: Perfformiad yn dirywio

  • Cyhoeddwyd
Iechyd

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru wedi i ffigyrau ddangos bod perfformiad yn erbyn un targed yn ymwneud â chanser wedi gwaethygu.

Dim ond 85.2% o gleifion â chanser posib oedd angen triniaeth frys yn ôl diagnosis wnaeth ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Awst.

Targed y llywodraeth yw 95% a dyw hwn heb gael ei gyrraedd ers 2008.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod cynnydd mawr wedi bod yn y niferoedd sy'n cael eu trin dros y flwyddyn ddiwethaf a bod perfformiad yn erbyn targed canser arall wedi gwella.

'Amseroedd aros gwael'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Millar eisiau gweld y llywodraeth yn sefydlu cronfa ar gyfer triniaethau canser

Mae'r perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod yn waeth ar gyfer Awst 2014 (85.2%) o'i gymharu â'r un mis y flwyddyn ddiwethaf (88.6%), ac yn waeth nag ar gyfer Gorffennaf 2014 (85.8%).

Yn ôl y Ceidwadwyr, nid yw hyn yn dderbyniol.

Dywedodd eu llefarydd iechyd Darren Millar: "Ar ôl derbyn diagnosis o ganser posib, mae'n hollbwysig i ragolygon cleifion eu bod nhw'n dechrau triniaeth ar unwaith.

"Sut all Carwyn Jones edrych cleifion canser yn eu llygaid pan mae wedi bod yn gyfrifol am amseroedd aros gwael bob mis ers cael ei wneud yn Brif Weinidog?"

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod perfformiad yn erbyn y targed 31 diwrnod - sydd ar gyfer cleifion gyda chanser posib nad yw'n achos brys - wedi gwella.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r ffigyrau ar gyfer Awst yn dangos perfformiad gwell yn erbyn y targed canser 31 diwrnod - fe wnaeth 97.7% o gleifion ddechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod.

"Dros y 12 mis diwethaf (Medi 2013 i Awst 2014) mae cynnydd o 18% yn y nifer y bobl sy'n cael diagnosis drwy'r llwybr canser brys wnaeth ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.

"Er gwaetha'r cynnydd hwn, mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i drin bron i naw o bob deg o gleifion o fewn 62 diwrnod."