Gwadu bod cleifion yn 'ffoi' o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Offer meddygolFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio honiadau bod miloedd o gleifion o Gymru yn mynd i Loegr am driniaeth feddygol, a hynny oherwydd nad ydyn nhw'n hapus gyda'r GIG yng Nghymru.

Daw hyn mewn ymateb i erthygl feirniadol am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn y Daily Mail.

Yn ogystal dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn rhaid i gleifion canser ddisgwyl yn hirach am driniaeth yng Nghymru nag oedd yn rhaid i gleifion ddisgwyl am driniaeth yn Lloegr.

Ychwanegodd bod cleifion sy'n byw ger y ffin yn aml yn teithio i Loegr os mai dyna ble mae'r ysbyty agosaf.

'Argyfwng'

Dydd Llun roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi wfftio galwadau am ymchwiliad i'r modd mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei reoli yng Nghymru, yn dilyn honiadau ym mhapur newydd y Daily Mail bod y gwasanaeth mewn "argyfwng".

Dywedodd Carwyn Jones fod y feirniadaeth wedi ei selio ar 'faterion hanesyddol' sy'n dyddio nôl rhai blynyddoedd. Ychwanegodd bod yr awdurdodau yn mynd i'r afael â'r problemau hyn.

Yn ogystal dywedodd bod y GIG yng Nghymru mewn dim mwy o drafferthion na'r GIG yn Lloegr.

Yn hwyrach ddydd Llun roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad manwl yn gwrthod honiadau'r papur newydd.

16,000 o gleifion

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu honiad bod bron i 16,000 o gleifion canser yn derbyn triniaeth yn Lloegr, gan ddweud bod y ffigwr yn nes at 1,000 o gleifion yn derbyn triniaeth, gyda chyfanswm o 16,000 o ymweliadau unigol.

Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod y nifer o bobl ar draws Cymru sy'n derbyn triniaeth am ganser dros y ddegawd ddiwethaf wedi cynyddu, felly tra bod mwy o bobl o ardaloedd ar y ffin, megis Powys, yn derbyn triniaeth canser yn Lloegr, mae mwy o bobl hefyd yn derbyn triniaeth canser gan y GIG yng Nghymru.

Felly, maen nhw'n honni nad oes cynnydd cyfatebol wedi bod yn nifer y cleifion canser yng Nghymru sy'n derbyn triniaeth yn Lloegr.

'Gwasanaeth eilradd'

Yn ystod sesiynau cwestiynau iechyd yn Nhŷ'r Cyffredin dydd Mawrth gofynnodd AS Ceidwadol Caer, Stephen Mosley, beth oedd y Gweinidog Iechyd, Jeremy Hunt, am wneud i sicrhau bod ysbytai yn Lloegr yn derbyn cyfran deg o'r adnoddau, a hynny er gwaethaf yr angen i drin miloedd o gleifion o Gymru oedd yn ceisio ffoi rhag rheolaeth drychinebus y Blaid Lafur o'r GIG yng Nghymru.

Ymatebodd Mr Hunt drwy ddweud: "Am bob un claf o Loegr sy'n derbyn triniaeth mewn ysbyty yng Nghymru, mae pump o gleifion o Gymru yn derbyn triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr, ac mae hyn yn creu pwysau enfawr.

"Rydw i wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yng Nghymru er mwyn dweud bod y GIG yn fodlon trin mwy o gleifion o Gymru, ond y broblem yw, nad ydyn nhw'n fodlon talu amdano, a dyna pam mae cleifion o Gymru'n derbyn gwasanaeth eilradd."