Iechyd: Wfftio galwad am ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones: Ddim am gael ymchwiliad

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi wfftio galwadau am ymchwiliad i'r modd mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei reoli yng Nghymru.

Fe ddywedodd bron i dri chwarter y bobl gafodd eu holi mewn arolwg gan Geidwadwyr Cymru, dolen allanol eu bod am gael ymchwiliad annibynnol i'r gwasanaeth.

Mae'r Ceidwadwyr am weld comisiynwyr iechyd yn cael eu penodi, ac y byddai hyn yn creu Gwasanaeth Iechyd sy'n fwy atebol.

Ond dywedodd Carwyn Jones fod y feirniadaeth wedi ei selio ar 'faterion hanesyddol' sy'n dyddio nôl rhai blynyddoedd. Ychwanegodd fod yr awdurdodau yn mynd i'r afael â'r problemau hyn.

Yn y gorffennol, mae'r Gymdeithas Feddygol ac aelod seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi galw am ymchwiliad.

Yn ôl Plaid Cymru mae angen ad-drefnu radical o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am gomisiwn amlbleidiol i benderfynu ar y dyfodol.

Comisiynwyr

Dywedodd Mr Jones yn ystod ei gynhadledd fisol i'r wasg: "Mae'n anghywir i awgrymu fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru rhywsut mewn sefyllfa fwy anodd nag sy'n wir yn Lloegr. "

Dywedodd nad oedd ganddo "unrhyw ymddiriedaeth yn yr Adran Iechyd yn Lloegr."

Ychwanegodd fod yna ddylanwad gwleidyddol cryf ar yr adran yn Lloegr.

Ond dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr arolwg yn dangos bod galw am newid sylfaenol.

Ychwanegodd bod cleifion yn teimlo nad oedd eu cwynion yn cael eu trin yn deg.

"Byddai comisiynwyr iechyd wedi eu hethol yn rhoi llais pendant i'r claf o fewn y Gwasanaeth Iechyd, ac yn symud y broses o wneud penderfyniadau dros wasanaethau iechyd o afael y llywodraeth ganol i ddwylo'r bobl," meddai.

"Rydych yn pleidleisio pobl i mewn ac allan o'r swydd - dyna ein gweledigaeth ni ar gyfer rhoi llais i'r claf o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol