Cyfrwng iaith: Cymharu disgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae plant sy'n siarad Saesneg adref ond yn mynychu ysgolion cynradd Cymraeg yn llai tebygol o fod ymhlith y disgyblion sy'n perfformio orau, o gymharu â phlant o gartrefi Cymraeg.
Mae'r ymchwil, ddeilliodd o gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru, hefyd yn dangos bod holl blant ysgolion Cymraeg Cymru yn llai tebygol o dangyflawni na disgyblion ysgolion Saesneg Cymru.
Cafodd perfformiad 25,000 o ddisgyblion eu cymharu â'i gilydd.
Mae'r ffigyrau yn cymharu perfformiad disgyblion 11 oed o bob ysgol yng Nghymru, a hynny o blith y rhai sydd ddim yn gymwys i dderbyn cinio am ddim.
Golygai hynny bod y ffigyrau yn cynnwys 87% o blant ysgolion cyfrwng Cymraeg, a 78% o blant ysgolion cyfrwng Saesneg.
Lefel 4
Roedd yr ystadegau yn ystyried perfformiad y plant yn y Gymraeg fel iaith gyntaf (dim ond ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg), Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Mae'r ymchwil yn cymharu tri grŵp o blant - plant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ond sy'n dod o deuluoedd di-Gymraeg.
Yn gyffredinol mae disgwyl i'r rhan fwyaf o ddisgyblion 11 oed gyrraedd lefel 4 (L4) ym mhob pwnc.
Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, fe wnaeth 8% o'r disgyblion fethu â chyrraedd y nod (L4) yn Saesneg.
Yn yr ysgolion Cymraeg y ffigwr oedd 7% ar gyfer plant o gartrefi Cymraeg a di-Gymraeg.
Roedd yna ddarlun tebyg ym Mathemateg, roedd y disgbylion yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn llai tebygol o dan gyflawni.
Dadansoddiad
Am y tro cyntaf, mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru yn golygu y gallwn ni edrych ar berfformiad plant 11 oed o gefndiroedd gwahanol.
Mae'n golygu y gallwn ni gymharu plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Saesneg, a'r rhai sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Ac o fewn hynny, mi allwn i edrych ar blant yn yr ysgolion Cymraeg sy'n siarad Cymraeg adref a'r rhai sy'n siarad Saesneg adref.
O edrych ar Fathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg, mi welwn ni faint o blant sy'n tangyflawni.
Does yna fawr ddim o wahaniaeth, ond mi welwn ni fod disgyblion yn yr ysgolion di-Gymraeg ychydig yn fwy tebygol o dangyflawni, gan gynnwys yn Saesneg.
Ond wedyn mi allwn ni edrych ar yr ochr aral - y plant sy'n gwneud yn well na'r disgwyl.
Ac yn fanno mi welwn ni fod disgyblion ysgolion di-Gymraeg digon tebyg i blant ysgolion Cymraeg o gartrefi Cymraeg.
Ond mae'r plant sydd yn yr ysgolion Cymraeg, ond o deuluoedd di-Gymraeg, yn llai tebygol o wneud yn well na'r disgwyl.
Arwyn Jones, Gohebydd Addysg, BBC Cymru
Yn ôl canllawiau'r athrawon ar gyfer Saesneg, mae disgwyl i blant 11 oed sy'n cyrraedd lefel 4 gyflawni'r canlynol:
"llawysgrifen sy'n llifo, wedi ei gysylltu ac yn ddealladwy
wrth ymateb i waith ysgrifenedig, dylai'r disgyblion ddechrau deall syniadau, themâu, digwyddiadau a chymeriadau, gan ddechrau dod i gasgliad am y cynnwys."
Ond wrth edrych ar y disgyblion sy'n cyrraedd lefel 5 yn Saesneg, mae'r ffigyrau yn wahanol.
Lefel 5
Yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg, fe wnaeth 44% gyrraedd L5, sy'n cymharu â 42% ar gyfer plant o gartrefi Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Y ffigwr ar gyfer disgyblion o gartrefi di-Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yw 40%.
Ar gyfer pynciau Mathamateg a Gwyddoniaeth, bach iawn oedd y gwahaniaeth rhwng ysgolion cyfrwng Sasenseg (43% Mathemateg, 44% Gwyddoniaeth) a disgbylion o aelwydydd Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cyrmaeg (44% Mathemateg, 44% Gwyddoniaeth)
Fe wnaeth llai o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, gyrraedd L5 yn y ddau bwnc (39% Mathemateg, 38% Gwyddoniaeth).
Er mwyn cyrraedd lefel 5 yn Saesneg mae angen i ddisgyblion ddangos:
brawddegau syml a chymhleth wedi eu trefnu mewn paragraffau
ystod o atalnodi, gan gynnwys atalnod, dyfynnod a chollnod a'u bod yn cael eu defnyddio yn gywir.
Fe wnaeth 45% o blant o aelwydydd Cymraeg oedd yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg gyrraedd L5+ yn Gymraeg, o'i gymharu a 30% o blant o gartrefi di-Gymraeg.