John Peel a'r Sin Roc Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Am ddegawda bu'r darlledwr John Peel yn ddylanwad mawr ar chwaeth cerddorol miloedd o Gymry ifanc.
Roedd ei farwolaeth sydyn ddeng mlynedd yn ôl yn ergyd fawr i bobl oedd am glywed cerddoriaeth tu hwnt i'r siartiau confensiynol.
Fel DJ poblogaidd ar BBC Radio 1 rhoddodd lwyfan ehangach i lawer o fandiau tu hwnt i'r diwylliant eingl-americanaidd masnachol. Yn eu plith roedd dwsinau o grwpiau Cymraeg gan gynnwys yr Anrhefn, Y Fflaps, Datblygu a Llwybr Llaethog.
Bu John Griffiths o'r Llwybr Llaethog yn trafod dylanwad a gwaddol John Peel gyda BBC Cymru Fyw.
Arbrofol
Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, mae John a Kevs Ford wedi bod yn gwthio'r ffiniau ar gyrion y sin ers canol yr wythdegau.
Roedd John a Kevs yn Llundain pan benderfynon nhw ffurfio Llwybr Llaethog, ond doedd gwneud y peth yn Saesneg a ffitio mewn ddim yn rhywbeth oedd yn apelio.
"Roedd gwneud y peth yn Gymraeg yn benderfyniad," meddai John, sy'n byw yn ardal Grangetown Caerdydd erbyn hyn.
"Yn y lle cynta' ro'n i isho recordio dub reggae a'r gân Rap Cymraeg, dyna oedd y syniad, do'n i'm yn disgwyl i'r band bara fel mae o. Nesh i yrru cwpl o cassettes o gwpl o dracs o Rap Cymraeg a Malu Cachu i Rhys Mwyn a Siôn Sebon oedd yn rhedeg Recordiau Anrhefn.
"O fanna aeth o rili, achos natho' nhw ofyn am 'chydig mwy o dracia a na'th hynny arwain at EP cynta' ni, Dull Di Drais a mi nath Peel bigo i fyny ar ein stwff ni'n syth.
"Dwi'n credu yn rhannol achos bo' ni yn 'neud stwff gwahanol i weddill y bands oedd yn dod allan o Gymru ar y pryd. Dwi'n meddwl tracia fel Rap Cymraeg, oedd o jest mor wacky fel syniad nath Peel fynd amdano fo, natho ni bedair sesiwn i'r Peel Show dwi'n meddwl dros y blynyddoedd.
"Roedd Peel wastad yn gefnogol dros y blynyddoedd i'n stwff ni, dwi'n meddwl nath o pretty much chwarae bob trac natho ni ryddhau erioed."
John Peel a'r Gymraeg
Ond beth wnaeth sbarduno diddordeb Peel mewn cerddoriaeth Gymraeg yn y lle cyntaf?
"Pan oedd o'n ifanc mi na'th o ei National Service yn Tŷ Croes, Sir Fôn dwi'n credu," meddai John.
"Dwi'm yn siŵr os mai o'r cysylltiad yna y gafodd o'r diddordeb, ond dwi'n siŵr roedd oherwydd hynny yn ymwybodol bod 'na iaith yna oedd yn cael ei defnyddio, dydi pawb sy'n byw yn Lloegr ddim mor sussed fel yna."
Stiwdio
Cafodd sesiwn gynta' Llwybr Llaethog ar gyfer y Peel Show ei recordio yn '87.
"Dwi'n cofio bryd hynny roedd gan Kevs hen, henkeyboard Farfisa a bob tro roedd o'n troi o ymlaen roedd rhyw fuses yn yr adeilad yn mynd, so natho ni landio fyny efo top y keyboard off a wedyn oedd jest yr electronics i gyd allan.
Mi ddath yr engineers i gyd allan o'r control room a mynd 'Wow! What's this? Ooh, looks interesting!'
"Ond o'dd na un boi oedd yn sbio lawr ei drwyn ato ni braidd, ac ar y pryd roedd Kevs wedi symud yn ôl i Blaenau a nath o a Ben y baswr droi fyny mewn wellingtons efo mwd i gyd arnyn nhw, yn syth o'r cefn gwlad!"
Er bod Peel yn gwbl gefnogol i bopeth Cymraeg doedd hynny ddim yn golygu ei fod yn gallu cael ei dafod o gwmpas enwau'r bandiau roedd o'n eu chwarae.
Roedd Datblygu a Tynal Tywyll yn eitha' hawdd i'w ynganu, ond be oedd o'n fod i wneud pan yn cyflwyno caneuon ag enwau fel Dafydd Iwan yn y Glaw?
"Pan o'n i'n byw yn Peckham yn Llundain a roedd o'n dechrau chwarae stwff Cymraeg roedd o'n ffonio fi fyny a gofyn sut i ddeud pethau," meddai John.
"Dwi'n cofio fo'n gofyn sut i ddeud Plant Bach Ofnus a chaneuon gan Datblygu neu'r Anhrefn, a hefyd Eirin Peryglus oedd yn fand arall oedd yn creu problema iddo fo.
"'Sa fo ar y ffôn efo fi a yn gofyn 'Ok, how do you say this one?' a mi faswn i'n deud a wedyn mi fysa fo'n deud 'And that was Eirin Peryglus with...' yn syth ar y radio ar ôl dod off y ffôn efo fi!
"Mi odd genna fo rhifa ffôn 'chydig o bobl, os o'n i ddim yna 'sa fo'n ffonio Gorwel Owen yn Sir Fôn neu Rhys Mwyn yn lle bynnag oedd o'n byw ar y pryd."
Bygythiad digidol?
Mae'r byd wedi newid ers cyfnod Peel a bellach mae mwy a mwy o bobl yn dewis cael eu cerddoriaeth yn ddigidol ac mae llai yn gwrando ar raglenni ar y radio.
Ydi hyn yn golygu bod rhywbeth yn cael ei golli, bod y rhan fwya' o bobl ddim yn cael y sgwrs 'na gyda perchennog y siop recordiau ddim mwy, ddim yn clywed band newydd cyffrous ar sioeau radio poblogaidd?
"Mae'r internet wedi newid popeth," meddai.
"A does neb fel Peel y dyddia yma ar Radio One, wrach fod o'n digwydd ar orsafoedd lleol".
"Dwi ddim yn gwrando ar Radio Cymru ddim mwy," meddai.
"Rhyw bum mlynedd yn ôl roedd o'n ok... mae o'n saff, canol y ffordd, boring.
"Os ma nhw isho pobl ifanc sydd efo diddordeb mewn miwsig i wrando yn y nos wel ma nhw angen newid pethau. Ma nhw wedi cymryd cam yn ôl i fi.
Roedd gan Nia Medi sioe da rhyw flwyddyn yn ôl. Roedd o werth tiwnio mewn achos doedda ti byth yn gwybod be ti'n mynd i glywed, a roedd o jest chydig yn wahanol."
A'r geiriau yna 'ychydig yn wahanol' yw'r rhai sy'n aros yn y cof. Dyna oedd John Peel yn ei arddel, dyna mae Llwybr Llaethog yn dal i wneud.
Am gyfnod fe wnaeth y rhai oedd ar y cyrion ddarganfod eu hunain yn y canol, ydi'r amser wedi dod i hynny ddigwydd eto?