Camgyfieithu'n 'codi cywilydd' yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
arwydd twll yn y wal

Mae 'na arwydd ar beiriant twll yn y wal yn Aberystwyth wedi cael cryn sylw, wedi cyfieithiad trwsgl.

Roedd yr arwydd y tu allan i archfarchnad Tesco yn cynnig "free cash withdrawals" yn Saesneg, ond yn Gymraeg - "codiad am ddim".

Fe welodd y cynghorydd lleol, Ceredig Davies y camgymeriad, gan ddweud bod 'na "dipyn o chwerthin yn y dre', felly mi es i i gael cip...

"Deg allan o ddeg i'r archfarchnad am ystyried yr iaith Gymraeg. Ond falle y dylen nhw fod wedi gwirio'r cyfieithiad cyn rhoi'r arwyddion ar y peiriannau.

"Mae pobl yn cam-gyfieithu o dro i dro, ond mae hwn yn ddigri' iawn."

Fe ddywedodd rheolwyr yn yr archfarchnad eu bod nhw wedi tynnu'r arwydd i lawr ac yn ymchwilio i'r camgymeriad.