Prentisiaethau: Toriadau'n creu 'ansefydlogrwydd anferth'

  • Cyhoeddwyd
Prentis
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua hanner y prentisiaid yn hŷn na 25 oed.

Mae'r prif fudiad sy'n darparu prentisiaethau wedi rhybuddio y bydd toriadau Llywodraeth Cymru yn cael "effaith anferth" ar eu cyrsiau.

Yn ôl Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, mae'r gyllideb ar gyfer y rheiny sydd eisiau cwblhau prentisiaeth wedi ei thorri o £105 miliwn eleni i £74 miliwn ar gyfer 2015-16.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r flaenoriaeth i brentisiaid 16-24 oed a Phrentisiaethau Lefel Uwch ac mae tua hanner y prentisiaid yn hŷn na 25 oed.

Dywedodd Jeff Protheroe, rheolwr gweithrediadau'r ffederasiwn fod y toriadau i'r gyllideb ar gyfer y rheiny dros 25 oed yn golygu y bydd digon o arian ar gyfer 7,000 o brentisiaethau tra bod bron 24,000 eleni.

"Bydd hyn yn dad-sefydlogi'r cynllun prentisiaethau yng Nghymru, un o'r cynlluniau mwyaf llwyddiannus o'i fath yn Ewrop.

"Mae nifer fawr o'n prentisiaid yn llwyddo ac yn cwblhau'r cwrs ac am y ddwy flynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru a'r ffederasiwn wedi bod yn gweithio'n galed i geisio codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau fel dewis arall yn lle addysg uwch.

"Rydw i'n credu y bydd llawer o'r gwaith da yn cael ei ddadwneud oherwydd bydd gennym ni sefyllfa anffodus - oherwydd toriadau ni fyddwn yn gallu ateb y galw."

'Gostwng 10%'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni wedi wynebu toriadau digynsail gan Lywodraeth y DU sy'n golygu y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 wedi gostwng 10% mewn termau go iawn o'i chymharu ag un 2010-11.

"Mae hyn wedi golygu ein bod ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn.

"Er gwaethaf yr heriau, rydym wedi llwyddo i gynnal yr arian sy'n cael ei roi i hyfforddiaethau, ac rydym wedi parhau i ariannu prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed, ac wedi cynnal lefel y gefnogaeth ar gyfer prentisiaethau lefel uwch.

"Mae gwneud toriadau yn anodd, ond maen nhw'n cael eu gwneud yn dilyn ystyriaeth ofalus o'r holl ddewisiadau ac rydym wedi ysgrifennu at ddarparwyr hyfforddiant yn egluro pam ein bod ni'n gwneud y toriadau.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r rhwydwaith a'r ffederasiwn er mwyn gweld sut y gallwn leihau effeithiau'r toriadau."

Ond dywedodd Mr Protheroe: "... mae llawer o unigolion yn mynd i mewn i swyddi newydd felly bydd cyflogwyr yn defnyddio'r cynlluniau i ddatblygu sgiliau'r unigolion hynny wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfa.

"Felly mae prentisiaethau'r un mor bwysig i bobl 25 oed a hŷn ag ydyn nhw i bobl 16-24 oed."

'Hyd at 50% o'r costau'

Mae darparwyr prentisiaethau yn poeni y bydd Llywodraeth Cymru'n rhoi'r gorau i ariannu prentisiaethau'n llwyr ar gyfer prentisiaid dros 25 oed o 1 Ebrill ymlaen y flwyddyn nesaf.

Yn y dyfodol mae'r llywodraeth wedi dweud y byddan nhw'n talu "hyd at 50% o'r costau".

Mae Terry Williams yn rhedeg Terry's Patisserie yn Aberbargoed ger Caerffili a sefydlodd y cwmni 19 mis yn ôl a chyflenwi cacennau ar gyfer gwestai a thai bwyta.

Yno mae hi'n gweithio gyda Jason Shuck sydd newydd orffen prentisiaeth.

Dywedodd Terry nad ydi hi'n derbyn cyflog oherwydd ei bod hi'n ceisio datblygu'r busnes. Mae'r holl elw'n cael ei fuddsoddi yn syth yn ôl yn y busnes.

Dywedodd na fyddai'n gallu fforddio cyflogi prentis arall pe bai'n rhaid iddi dalu'r holl gostau hyfforddiant.

"Mae hi'n cymryd llawer o amser ac egni i hyfforddi rhywun ac mae hi'n costio arian i wneud hynny.

"Pan gychwynnodd Jason roedden ni'n disgwyl iddo droi fyny a bod yn gwrtais, ac wedi hynny y bydden ni'n dysgu'r holl sgiliau angenrheidiol iddo.

"Ni fyddwn ni'n gallu gwneud hynny, yn gallu fforddio talu am hynny o dan y drefn newydd achos byddai'n rhaid i ni ddewis rhywun sydd gyda'r sgiliau hynny'n barod."