Pryder am gefnogaeth mabwysiadu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Wrth lansio gwasanaeth mabwysiadu newydd, mae gobaith y bydd y nifer o bobl yng Nghymru sy'n ystyried mabwysiadu plentyn yn dyblu.
Ond mae pryder y gall mabwysiadu yn Lloegr fod yn fwy deniadol, oherwydd cronfa gefnogaeth gwerth £19 miliwn i rieni yn Lloegr sydd ddim ar gael yng Nghymru.
Mae elusen fabwysiadu yng Nghymru yn dweud ei bod hi'n hanfodol bod cefnogaeth ar gael i blant a'u rhieni.
Yn ôl arweinydd y gwasanaeth newydd, bydd y newid yn gwella'r broses fabwysiadu a'r gefnogaeth sydd ar gael ar ôl mabwysiadu
Cefnogaeth yn hanfodol
Mae'r mwyafrif o blant sy'n disgwyl i gael eu mabwysiadu wedi cael dechrau anodd i'w bywydau, a hynny drwy esgeulustod neu gamdriniaeth.
Y flwyddyn ddiwethaf cafodd 289 o blant eu mabwysiadu yng Nghymru, ac er bod llawer o blant ifanc iawn yn cael eu rhoi gyda rhieni o fewn tri mis, mae'r rhai sydd ddim yn cael eu rhoi ar Gofrestr Mabwysiadu Cymru.
Dywedodd Ann Bell o Adoption UK yng Nghymru bod cefnogaeth wedi'r mabwysiadu yn bwysig iawn.
"Bydd gan rai o'r plant yma anghenion sylweddol ac mae hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n rhoi cyfle teg iddyn nhw mewn bywyd", meddai.
"Mae'r angen hwnnw wedi cael ei gydnabod yn Lloegr ac mae ganddyn nhw dystiolaeth bod clustnodi arian ar gyfer gwaith therapiwtig yn mynd i wneud gwahaniaeth.
Ychwanegodd: "Dydi plant yng Nghymru ddim gwahanol, felly mae angen amlwg yn bodoli."
Ddim yn hawdd
Mabwysiadodd Penny o Gaerdydd ei mab chwech oed, dair blynedd yn ôl. Dywedodd bod mabwysiadu wedi newid ei bywyd, ond nad yw pethau ddim wedi bod yn hawdd.
"Cafodd ddechrau anodd iawn, iawn i'w fywyd, gyda dwy flynedd mewn amgylchedd o annibendod ac anrhefn, sydd wedi effeithio ar y ffordd mae o'n gallu ymdopi â bywyd.
Mae Penny a'i mab wedi derbyn cymorth angenrheidiol gan yr awdurdod lleol oedd wedi trefnu'r mabwysiadu.
Ond dywedodd ei bod hi'n un o'r rhai lwcus: "Heb y gefnogaeth honno byddai pethau wedi bod yn llawer anoddach a dwi wedi gweld rhai achosion o fabwysiadu bron yn chwalu oherwydd nad ydyn nhw'n derbyn cefnogaeth.
"Pan es i'n ôl i'r gwaith mi wnes i sylweddoli nad oedd fy mab yn gallu ymdopi gyda'r ffaith fy mod i'n gadael am gyfnodau hir.
"Roedd hyn yn golygu nad oedd o'n gallu mynd i'r clwb brecwast nac i'r clwb ar ôl ysgol, ac roedd yn rhaid i mi leihau fy oriau gwaith."
Denu dros y ffin?
Mae gwasanaethau cefnogi ôl-fabwysiadu ar gael yng Nghymru, ond maen nhw wedi eu seilio ar asesu anghenion. Bydd newidiadau mawr yn cael eu cyflwyno wrth i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gael ei lansio, ond ni fydd yr elfen hon o'r drefn yn newid.
Mae Phil Evans o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn pryderu y bydd mabwysiadwyr posib o Gymru yn cael eu denu gan y gefnogaeth sydd ar gael yn Lloegr.
Dywedodd: "Os oes gormod o wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr efallai y byddwn ni'n colli mabwysiadwyr posibl ar gyfer plant yng Nghymru a ni allwn adael i hynny ddigwydd.
"Mae'n rhaid i ni ddeall pam bod y cynnig yn Lloegr yn ymddangos yn well."
Ond mae Mr Evans yn hyderus y bydd y gwasanaeth newydd yn lleihau'r gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad.
"Byddwn ni'n disgwyl y byddai sefydlu'r grŵp ymgynghorol cenedlaethol yn ein galluogi i ddweud 'dyma'r atebion posibl, dyma beth mae'n rhaid i ni wneud'."
Gwasanaethau cyson
Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru wedi dangos bod angen mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chefnogaeth wrth fabwysiadu, ond y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fydd a'r cyfrifoldeb am hynny.
Mae Suzanne Griffiths, fydd yn arwain y gwasanaeth, yn hyderus y bydd yn gwella'r broses fabwysiadu a'r gefnogaeth sydd ar gael ar ôl mabwysiadu.
"Bydd asesu a chymeradwyo mabwysiadwyr, cysylltu plant gyda rhieni a datblygu gwasanaethau cefnogi mabwysiadu yn cael eu cydlynu ar lefel genedlaethol.
"Dros gyfnod o amser byddwn yn datblygu gwell gwasanaethau a gwasanaethau cyson, er mwyn sicrhau ble bynnag yng Nghymru mae rhywun yn byw, gallan nhw ddisgwyl derbyn yr un gwasanaethau a'r un gefnogaeth."
Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn cael ei lansio ddydd Mercher, 5 Tachwedd.
Bydd mwy o fanylion ar raglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales am 12:30 ar ddydd Sul, 2 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2014
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2014