£1 miliwn i hybu defnydd o'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd £1 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn canolfannau newydd ac arloesol gan gynnwys lleoedd dysgu, i hybu'r defnydd o'r Gymraeg, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Daw cyhoeddiad Carwyn Jones o fuddsoddiad pellach, yn ychwanegol i'r £1.25m o fuddsoddiad tuag at yr iaith a gyhoeddwyd dros yr haf.
Bydd yr arian cyfalaf newydd yn helpu awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion i ddatblygu canolfannau iaith sy'n cynnig cyfle i bobl ddysgu neu ymarfer y Gymraeg, gan greu canolbwynt ar gyfer yr iaith.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Cafwyd ymateb positif iawn i'r arian a gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod fis Awst, a daeth nifer fawr o geisiadau i law am yr arian hwnnw.
"Byddwn yn cyhoeddi ceisiadau llwyddiannus eleni maes o law, ond gan fod cynifer ohonyn nhw, mae'n bleser gen i gyhoeddi'r £1 miliwn ychwanegol heddiw.
"Dwi wedi dweud erioed mai'r allwedd i hybu'r defnydd o'r Gymraeg yw sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i'w defnyddio'n gymdeithasol ar lawr gwlad, yn y gymuned.
"Bydd y cynnydd sylweddol hwn yn yr arian cyfalaf yn gyfraniad pwysig at y gwaith o ddarparu'r adeiladau a'r canolfannau a fydd yn sicrhau bod pobl yn cael y cyfle hwnnw.
"Bydd hynny yn ein helpu i gadw at ein hymrwymiad yn 'Bwrw Ymlaen', sef ein gweledigaeth ar gyfer hybu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2014
- Cyhoeddwyd6 Awst 2014
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2014