Cynllun i gladdu peilonau dan ddaear ar gost o £500m
- Cyhoeddwyd
Bydd ceblau peilonau trydan yn diflannu o rai o ardaloedd harddaf Cymru fel rhan o benderfyniad y Grid Cenedlaethol i gladdu'r ceblau o dan ddaear.
Er bydd y gwaith yn costio mwy, y bwriad yw lleihau'r effaith weledol.
Mae grwpiau cefn gwald wedi croesawu'r newyddion, ond wedi pwysleisio y dylai pob prosiect ynni newydd ystyried yr effaith ar y tirwedd o'r cychwyn.
Nawr mae'r Grid Cenedlaethol wedi clustnodi £500 miliwn, sydd wedi'i gymeradwyo gan reoleiddiwr y diwydiant Ofgem tan 2021, i gladdu neu guddio'r ceblau a'u dargyfeirio oddi wrth ardaloedd o harddwch.
Yn ôl y cwmni, y prif reswm dros y gost uchel yw bod angen dod i gytundeb gyda thirfeddianwyr a thyllu ffosydd hyd at 20m o hyd mewn rhai mannau.
Rhestr fer
Mae disgwyl i'r cynllun wyth mlynedd gostio 22 ceiniog i bob cartref ar gyfartaledd.
Mae rhestr fer wedi'i chyhoeddi o 12 ardal trwy'r DU lle mae peilonau yn amharu fwyaf ar yr olygfa. Mae'r rhestr yn cynnwys Eryri, Bannau Brycheiniog, Y Fforest Newydd a'r Peak District.
Roedd y cynlluniau gwreiddiol gan y Grid Cenedlaethol yn cynnwys cyllideb o £1.1 biliwn ar gyfer y gwaith, ond cwtogodd Ofgem y swm i £500 miliwn.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Caerwyn Roberts wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mawrth ei fod yn "croesawu cynlluniau'r Grid Cenedlaethol i gael gwared ar y peilonau mewn ardaloedd o harddwch yng Nghymru a Lloegr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012