Allen: 'Cyfres gywilyddus o droseddau'
- Cyhoeddwyd
O'r funud y daeth y cyhoeddiad y byddai Ymgyrch Pallial yn dechrau ymchwilio i honiadau hanesyddol o gam-drin plant mewn cartrefi yn y gogledd, roedd hi'n anochel y byddai John Allen yn ffigwr amlwg.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod Allen yn "gyfrifol am gyfres gywilyddus o gam-drin dros gyfnod o ddegawdau - sydd wedi effeithio yn fawr iawn ar nifer o ddioddefwyr".
Roedd perchennog Cymuned Bryn Alyn wedi cael ei garcharu am gam-drin plant yn 1995, ond roedd teimlad ymysg llawer oedd yn ymwneud â'r achos nad oedd y stori gyfan wedi dod i'r amlwg.
Fe fydd clywed y rheithgor yn dweud bod John Allen yn euog o 33 o gyhuddiadau o ymosodiadau anweddus a throseddau rhyw eraill yn erbyn plant yn gyfle iddyn nhw symud ymlaen - dyna farn un cyfreithiwr oedd yn gysylltiedig ag ymchwiliad blaenorol i gam-drin mewn cartrefi plant y gogledd yn 1996.
'Llosgi'n fewnol'
Roedd Hywel Lloyd Davies yn cynrychioli nifer o ddioddefwyr yn ystod Ymchwiliad Waterhouse ac, er i Allen gael ei garcharu cyn yr ymchwiliad hwnnw, mae Mr Davies yn credu bod y dyfarniadau diweddara'n bwysicach i ddioddefwyr.
Dywedodd: "Oherwydd natur cam-drin plant mae'r rhai sy'n diodde' yn tueddu i beidio â datgelu ... maen nhw'n llosgi'n fewnol ac yn dweud dim byd am neb.
"Pan maen nhw'n datgelu dwi'n teimlo eu bod nhw'n cael gwell rhyddhad.
"Mi fydd {y rheithfarn} yn rhyddhad i'r rhai sydd wedi diodde' dan Allen ac, yn sicr, os oes yna eraill allan yna sydd wedi diodde' a heb ddod ymlaen o achos y natur yna o gadw pethau'n gyfrinachol, mae'n mynd i fod o help i lawer ohonyn nhw hefyd."
Does wybod faint o ddioddefwyr sydd yna mewn gwirionedd.
Camweinyddu
Dechreuodd y cyfan yn 1968 pan gafodd cartref Bryn Alyn ei sefydlu gan Allen yn Llai, ger Wrecsam. Yn y blynyddoedd wedyn fe sefydlodd rwydwaith o gartrefi ar draws y gogledd, ac fe ehangodd y cartref gwreiddiol i fod yn Gymuned Bryn Alyn.
Dechreuodd Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio i honiadau o gam-drin yn y cartrefi yn 1991 - ymchwiliad oedd i bara am ddwy flynedd ac a arweiniodd at Allen yn cael ei garcharu yn 1995 am ymosodiadau rhyw ar chwech o fechgyn rhwng 12 a 16 oed.
Yn ystod yr achos eleni roedd Allen yn dal i fynnu mai camweinyddu cyfiawnder oedd hynny a'i fod yn ddieuog o'r troseddau - er hynny dyw Allen erioed wedi apelio yn erbyn yr euogfarnau.
Cafodd ei gyhuddo eto o droseddau pellach ar ôl i'r diweddar Sir Ronald Waterhouse gyhoeddi'r adroddiad o'i ymchwiliad ond fe daflwyd yr achos o'r neilltu gan farnwr am resymau technegol.
Am 16 blynedd aeth pethau'n ddistaw tan i Ymgyrch Pallial gael ei sefydlu yn 2012 i ymchwilio o'r newydd i honiadau o gam-drin, ac yn Ebrill 2013 fe gafodd Allen ei gyhuddo am y trydydd tro, gan arwain at yr achos sydd newydd ddod i ben.
'Nid gofal oedd hynny ond uffern'
Mae un o'r bobl ddioddefodd oherwydd Allen wedi siarad gyda BBC Cymru am ei brofiad. Roedd Ian - nid ei enw iawn - am aros yn ddienw.
"Roedd o'n mynd â fi allan unwaith neu ddwywaith yr wythnos ac yn prynu sigaréts a trainers i fi ... yn rhoi arian ychwanegol i fi," meddai.
"Roedd o'n neis hefo fi, yn gariadus. Pan ges i 'nghyfweld {gan yr heddlu} roedd y cyfan yn gwneud i fi deimlo mai fy mai i oedd ei fod o'n cyffwrdd yno i a 'nghofleidio.
"Efallai y dylwn i fod wedi ei wthio i ffwrdd ar y pryd, ond roedd o'n teimlo'n braf cael anwyldeb gan rywun.
"Rwy'n cael breuddwydion ofnadwy rŵan ... chwysu yn fy nghwsg tan fod y glustog yn socian a 'dach chi'n gweld lle mae 'nghorff i wedi gorwedd.
"Nid gofal oedd hynny, uffern oedd o."
'Rhywbeth o ffilm arswyd'
Un arall ddioddefodd yng Nghartref Bryn Alyn oedd Stephen Fong sydd bellach yn ddyn busnes llwyddiannus yn ardal Wrecsam.
"Roedd John Allen yn ffigwr tadol i mi - 'nes i erioed gael hynny o'r blaen adre' nac yn y canolfannau asesu ac roeddwn i'n teimlo'n agos ato fo.
"Dyna oedd yr ochr dda i bethau. Roedd yr ochr ddrwg fel rhywbeth o ffilm arswyd.
"Roeddwn i yn ei swyddfa fo rywdro am fod yn hogyn drwg ... pan ddaeth o fewn, y peth cyntaf wnaeth o oedd fy nharo i ar draws fy wyneb a thynnu darnau o 'ngwallt allan o 'mhen.
"Roeddwn i'n credu ar y pryd mod i'n haeddu hynny am 'mod i wedi bod yn hogyn drwg.
"Sawl tro roedd o'n gafael ynof i a chyffwrdd fy nghoesau ... ro'n i wedi rhewi gydag ofn.
Dweud y gwir
"Rwy'n gwybod nawr nad o'n i'n haeddu hynny o gwbl a bod y driniaeth yna ddim yn iawn."
Wrth grynhoi'r achos yn erbyn Allen, dywedodd y barnwr Mr Ustus Openshaw wrth y rheithgor bod rhaid iddyn nhw benderfynu pwy oedd yn dweud y gwir - John Allen neu'r bobl fu'n rhoi tystiolaeth yn ei erbyn.
"Mae'r rhan fwyaf o droseddau rhyw yn erbyn plant ifanc yn cael eu cyflawni heb dystion eraill, ac nid yw'n anarferol bod yr holl dystiolaeth mewn achosion fel hyn yn dod o enau'r dioddefwyr yn unig," meddai.
Bydd Allen yn cael ei ddedfrydu ddydd Llun, 1 Rhagfyr.