Gwireddu breuddwyd yn y Wladfa

  • Cyhoeddwyd
Huw Edwards yn dilyn hanes sylfaenwyr y Wladfa
Disgrifiad o’r llun,

Huw ar y môr ger man glanio'r Cymry ym Mhorth Madryn yn 1865

Mae'r darlledwr Huw Edwards ar ei ymweliad cyntaf â'r Wladfa ar hyn o bryd. Bu'n rhannu ei brofiadau gyda BBC Cymru Fyw:

Ymweliad cyntaf

Fe gymerodd ddeugain mlynedd i mi gael gwireddu breuddwyd gan ymweld â Phatagonia.

Yn wir, dyma fy ymweliad cyntaf â De America.

Teithiais ar draws y byd yn rhinwedd fy swydd fel newyddiadurwr a darlledwr, ond dyma'r cyfle cyntaf a gefais i flasu'r bywyd Cymreig a Chymraeg yn Nhalaith Chubut yn ne Ariannin.

Disgrifiad o’r llun,

Ger y graig hon y glaniodd Cymry yn 1865

Arloeswyr

Pam y cyfeiriad at ddeugain mlynedd?

Daeth athrawes ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Llangennech tua 1971 ac fe'n cyfareddwyd ni gan hanes ei hymweliad â Phatagonia adeg dathlu canmlwyddiant sefydlu'r 'Wladfa Gymreig'. Fe'n cyfareddwyd gan stori aroleswyr 1865, eu mordaith o Lerpwl ar y Mimosa, a'u glaniad ar arfordir De America ddeufis yn ddiweddarach.

Bu sefydlu'r 'Gymru Newydd' yn brofiad caled iawn i'r fintai gyntaf honno. Ac oni bai am orchest y Cymry yn creu rhwydwaith o ffosydd dŵr, gan droi tir diffaith yn dir ffrwythlon, mae'n gwbl sicr y byddai'r Wladfa wedi bod yn fethiant llwyr.

Chubut

Dyma fi, felly, wedi cwblhau wythnos gyntaf fy ymweliad. Treuliais bum niwrnod yn nyffryn afon Chubut ('Dyffryn Camwy', yn ôl y Cymry cynnar) sef ardal Porth Madryn, Trelew a Gaiman. Rydym wrthi'n cynhyrchu rhaglenni dogfen (Cymraeg a Saesneg) ar gyfer dathlu pen-blwydd sefydlu'r Wladfa yn 150 oed yng Ngorffennaf 2015.

Byddwn yn treulio'r wythnos nesaf yn yr Andes, ger Esquel a Threvelin, taith o saith awr mewn cerbyd ar draws y paith diddiwedd. Mae'r ddau leoliad yn cynnig persbectif gwahanol iawn ar hynt a helynt Cymry Patagonia.

Disgrifiad o’r llun,

Y pump arloeswr oedd yn dal yn fyw yn 1940

Y glanio gwreiddiol

Mae hwylio o Borth Madryn a syllu ar y man glanio gwreiddiol yn brofiad ysgytwol. Rhoes y cyfle i mi sylweddoli o'r newydd holl ddewrder ac aberth yr arloeswyr. Bwriadai'r arweinwyr greu gwlad newydd i'r Cymry Cymraeg, yn rhydd o ddylanwad Lloegr.

Ond digon teg dweud mai cymhellion economaidd a ddenodd y mwyafrif o weithwyr i hwylio ar y Mimosa, sef yr awydd plaen i wella'u safonau byw, a throi cefn ar galedi Cymru.

Er bod rhai trefniadau (annigonol) wedi eu gwneud ar eu cyfer, bu'r cyfnod cyntaf hwnnw, yn llochesu mewn siediau bach ger traeth Madryn, yn galed ac anodd. Mae Amgueddfa'r Glanio, ar ben y creigiau lle glaniodd y Cymry, yn cynnwys lluniau a chreiriau arbennig o'r cyfnod. Dr Fernando Coronato yw'r cyfarwyddwr.

Mae yntau'n siarad Cymraeg ac esboniodd wrthyf fod ychydig o ddadlau heddiw ynghylch amgylchiadau'r Cymry a laniodd gyntaf. A oeddynt wedi gorfod llochesu mewn tyllau cyntefig yn y graig? Barn sicr Fernando yw eu bod wedi gwneud hynny. Mae 'na dyllau mawr i'w gweld yno heddiw. Ond barn eraill yw bod y dystiolaeth yn dila a disylwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Yr organ fach a ddaeth ar y Mimosa yn 1865

"Y Gymraeg yn naturiol"

Beth bynnag, mae caledi a dycnwch a gwaith caled wedi bod yn nodweddion amlwg o hanes y Cymry ym Mhatagonia. Ymwelais â chartref Aldwyn Brunt, ffermwr 76 oed sy'n byw ger pentref Dolavon. Bu ei dad a'i daid yn ffermio yn yr un ardal am ganrif a mwy. Mae Cymraeg Aldwyn yn gyhyrog a rhugl, a chawsom groeso cynnes iawn ganddo.

Esboniodd wrthyf fod y Gymraeg wedi bod yn rhan naturiol o fywyd y teulu o'r cychwyn, ond gan nad oes plant ganddo, ac oherwydd nad yw plant ei chwaer yn siarad Cymraeg, nid oes dyfodol i'r iaith yn y teulu bellach. Aldwyn yw ceidwad y capel bach gerllaw, Capel Glan Alaw, a godwyd ym 1887.

Mae cyflwr y capel yn ardderchog, diolch i'r arian a wariwyd arno gan awdurdodau Talaith Chubut. Mae'r awdurdodau lleol wedi sylweddoli (o'r diwedd?) bod treftadaeth Gymreig a Chymraeg Patagonia yn elfen bwysig yn eu cynllun economaidd.

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda Aldwyn Brunt o flaen capel Dolavon

Dysgu'r heniaith

Mae 'na ddiddordeb mawr yn hanes y Cymry yn Ne America, gan gynnwys Brasil, ond yr Ariannin yw prif ffocws y sylw, yn ddigon naturiol, ar drothwy pen-blwydd arbennig sefydlu'r Wladfa. Un o'r pethau gwirioneddol gyffrous yma yw parodrwydd trigolion o bob tras i fynd ati i ymddiddori a hyd yn oed dysgu Cymraeg.

Mae 'na ysgol Gymraeg yn Nhrelew ('Ysgol yr Hendre') ac un o brif nodweddion y sefydliad yw bod mwyafrif llethol y rhieni yn Ddi-Gymraeg. Beth sydd i'w gyfrif am eu diddordeb a'u hymrwymiad?

Yn ôl yn y 1960au cynnar, byrdwn cyson trigolion Cymraeg Patagonia oedd bod dyfodol yr iaith yn ymddangos yn dlawd a thrist. Gwelwyd prawf o hynny yn y gyfres deledu odidog, 'Y Gymru Bell', a gyflwynwyd gan Nan Davies ar ran BBC Cymru.

Neges y gyfres oedd bod nifer bychan o deuluoedd yn awyddus i gynnal yr iaith, ond bod y mwyafrif yn derbyn mai Sbaeneg fyddai iaith naturiol y dyfodol i bawb.

'Y Gymru Bell'

Dangosom ffilm Nan Davies i gynulleidfa arbennig mewn theatr yn Nhrelew. Yn eu plith roedd Monw Evans de Hughes, un o'r mamau ifanc a ymddangosodd yn 'Y Gymru Bell' yn 1962 gyda'i phlant bach yn canu 'Iesu tirion' ar lawnt heulog y cartref.

Gwelwyd sawl deigryn yn y theatr yn ystod y dangosiad, wrth i ferched a bechgyn glywed lleisiau a gweld wynebau eu rhieni a'u perthnasau eraill o oes arall. Profiad dirdynnol i rai, heb amheuaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda Monw Evans de Hughes a'i merch Donna yn eu cartref yn Nhrelew

Roedd gan Monw a'i gŵr (y diweddar) Homer bump o blant. Cefais sgwrs gyda Monw ac un o'i merched, Donna, yn eu cartref yn Nhrelew. Esboniodd Monw ei bod hi a'i gŵr yn gwbl benderfynol o gynnal Cymreictod yr aelwyd, ac felly y bu.

Ychwanegodd Donna mai peth anodd oedd hynny ar brydiau, gan fod plant yn cael eu dirmygu gan ffrindiau am siarad Cymraeg. Serch hynny bu Donna a'i brodyr a'i chwiorydd yn gystadleuwyr brwd yn eisteddfodau Patagonia, ac mae Donna heddiw, er ei bod yn llai rhugl na'i mam, yn barod iawn i gynnal sgwrs yn Gymraeg.

Dwyieithrwydd

Bûm hefyd ar ymweliad â theulu Billy a Gladys Hughes yn Nhrelew. Polisi o gynnal dwy iaith sydd ganddyn nhw. Mae eu merched yn gallu siarad Cymraeg, ac fe gefais sgwrs fywiog gyda'u merch Lisa, ond mae 'na ddigon o Sbaeneg yn y cartref heb os.

Mae Billy a Gladys yn rhai o hoelion wyth y gymuned Gymraeg yn Nhrelew a'r Gaiman, yn gantorion a cherddorion a pherfformwyr a hyfforddwyr o fri. Bydd Billy yn ymweld â Chymru eto'r flwyddyn nesaf ar daith gyda'r côr.

Ond beth am y diddordeb y tu allan i gylch traddodiadol y Cymry hyn?

Disgrifiad o’r llun,

Mynwent Capel Moriah, Trelelew, lle mae 42 o'r arloeswyr wedi eu claddu

Dyma lle mae'r gobaith mawr am ddyfodol yr iaith ym Mhatagonia.

Mewn caffi yn Nhrelew fe gefais sgwrs gyda Virginia Steinkamp, myfyrwraig o dras Almaeneg, sydd wedi meistroli'r Gymraeg. Pam? Yn syml iawn, roedd ganddi ddiddordeb ynddi, ac roedd hi'n dymuno gwneud 'rhywbeth gwahanol'.

Er bod ei thad yn methu gweld mantais y fenter, aeth Virginia ati i ddysgu'r iaith ac erbyn hyn mae safon ei Chymraeg yn wirioneddol arbennig.

Cadw'r cysylltiad Cymreig

Esboniodd hi mai'r peth gorau yw tanlinellu manteision bod yn ddwyieithog, ac annog rhieni Patagonia i anfon eu plant i ysgol Gymraeg. Ychwanegodd bod prydferthwch y Gymraeg a chyfoeth diwylliant Cymru yn werth eu 'marchnata' yn fwy egniol, ac y dylai awdurdodau Talaith Chubut fanteisio ar eu cyfle.

Yn sicr fe newidiodd yr hinsawdd yn sgil dathlu'r canmlwyddiant ym 1965, ac erbyn heddiw mae 'na gyswllt cyson rhwng Awdurdodau Talaith Chubut a Llywodraeth Cymru, a nifer o athrawon wedi cael eu noddi i ddod yma i ddysgu Cymraeg i blant ac oedolion.

Oes, mae 'na arwyddion positif iawn yma.

Tybed a welaf wahaniaeth yng nghymunedau gorllewinol yr Andes, yn nhrefi Esquel a Trevelin?

Cawn weld ymhen ychydig ddyddiau.

Disgrifiad o’r llun,

Capel Glan Alaw