Estyn: angen i fwy wneud prentisiaethau

  • Cyhoeddwyd
Prentis
Disgrifiad o’r llun,

Fe all brentisiaethau gynnig hyfforddiant ymarferol mewn pob math o feysydd

Mae angen gwella nifer y dysgwyr sy'n ymgymryd â phrentisiaethau yng Nghymru, yn ôl arolwg gan Estyn.

Mae'r adroddiad - 'Rhwystrau rhag Prentisiaeth' - yn archwilio'r anawsterau y mae dysgwyr o grwpiau pobl o leiafrifoedd ethnig, a phobl ag anableddau'n eu cael o ran cychwyn rhaglenni prentisiaeth.

Yn ôl yr arolwg, mae 25% o ddarparwyr dysgu yn y gwaith o'r farn bod materion ieithyddol a diwylliannol yn gallu rhwystro rhai rhag ymgymryd â phrentisiaethau, yn enwedig yn achos grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o'r materion sy'n codi o stereoteipio yn ôl rhyw.

'Anghenion penodol'

Ymysg argymhellion yr adroddiad, mae awgrym y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod am y cymorth sydd ar gael iddynt wrth gyflogi prentisiaid ag anghenion penodol, a gweithio gyda darparwyr i ddatblygu eu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Yn ogystal, yn ôl Estyn, dylai darparwyr dysgu yn y gwaith weithio'n agosach gydag ysgolion, cyflogwyr ac arweinwyr cymunedol i wella ymwybyddiaeth o'r hyn sydd gan brentisiaethau i'w gynnig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Estyn yn dweud bod diffyg ymwybyddiaeth am fuddion prentisiaethau

Yn ôl Ann Keane, y Prif Arolygydd:

"Mae sawl rheswm pam y gallai dysgwyr benderfynu peidio â gwneud cais am brentisiaeth, er nad yw rhai o'r materion sy'n atal pobl rhag ymgymryd â nhw bob amser yn perthyn yn arbennig i grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

"Mae rhai o'r rhesymau hyn yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth ymhlith rhieni, dysgwyr a chyflogwyr o'r hyn sydd gan brentisiaethau i'w gynnig.

"Yn ogystal, gall darpar brentisiaid weithiau gael anawsterau wrth ddod o hyd i leoliad gwaith gan fod cyflogwyr yn meddwl y bydd angen iddynt drefnu cymorth ychwanegol iddynt. Gall anawsterau iaith a chyfathrebu gyfrannu hefyd at ddiffyg ymroddiad ar y ddwy ochr.

"Er bod darparwyr dysgu yn y gwaith yn gwybod am y rhwystrau hyn at ei gilydd, mae angen gwneud mwy i hybu ymwybyddiaeth o brentisiaethau'n fwy gweithgar ymhlith pob dysgwr ac i ennyn diddordeb unigolion mewn grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, unigolion ag anableddau ac unigolion o'r ddau ryw, fel y gallant ystyried a fyddent yn elwa o brentisiaeth."