Camdriniaeth Ddomestig: Heddlu Gwent dan y lach

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi cael eu beirniadu mewn adroddiad am y ''risg'' yn y ffordd mae swyddogion yn delio gydag achosion o gamdriniaeth ddomestig.

Mae angen gwella'r ffordd y mae'n lleihau ag atal troseddau, a gwella ymchwiliadau, yn ôl adolygiad swyddogol o 43 o heddluoedd Cymru a Lloegr.

Mewn ymateb, fe ddywedodd Ian Johnston, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent fod yr adroddiad yn dangos ''diffyg cydbwysedd''.

Dywedodd arolygwyr fod angen gwneud rhai gwelliannau yn Heddluoedd Dyfed-Powys a Gogledd Cymru hefyd. Fe gafodd Heddlu De Cymru adolygiad da.

Edrychodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC) sut yr oedd lluoedd yn:

  • cwtogi trosedd, gwarchod y bregus, delio gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol a gwasanaethau eraill

  • cynnig gwerth am arian

  • cynnig gwasanaeth teg sydd yn trin pobl yn gywir

O hyn allan fe fydd modd i aelodau'r cyhoedd edrych ar berfformiad eu heddluoedd lleol yn y meysydd hyn drwy ddefnyddio teclyn arlein ar wefan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na bryderon yn yr adroddiad am y ''risg'' yn y ffordd yr oedd Heddlu Gwent yn delio gydag achosion o gamdriniaeth ddomestig.

Dywedodd arolygiad yr Arolygiaeth fod ''pryderon sylweddol'' ynglŷn â'r ffordd yr oedd Heddlu Gwent yn ymateb i rhai dioddefwyr o gamdriniaeth ddomestig.

Roedd 'na bryderon hefyd yn yr adroddiad am effeithlonrwydd Heddlu Gwent wrth geisio cwtogi lefelau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Lefel boddhad

Roedd lefel boddhad dioddefwyr ymysg yr isaf o holl heddluoedd Cymru a Lloegr.

Yn ôl yr adolygiad roedd diffyg eglurder ymysg swyddogion am bwy oedd yn gyfrifol am ymchwilio i achosion risg uchel o gamdriniaeth ddomestig.

Fe wnaeth adroddiad yr Arolygiaeth ganmol gwaith da Heddlu Gwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth sefydlu ymddygiad proffesiynol yn ei swyddogion ond mae angen cynnig mwy o hyfforddiant er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwael.

Bydd Heddlu Gwent yn derbyn adolygiad arall yn 2015 gan arbennigwyr allanol.

Dywedodd Ian Johnston, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, fod y llu wedi gwario £150,000 yn paratoi ag ymateb i'r adolygiad, gan ddweud fod yr arolygaeth yn ''ceisio cyfiawnhau'' ei fodolaeth.

''Cydbwysedd''

"Ein prif gŵyn ydi diffyg cydbwysedd yn yr adroddiad ac mae hyn yn rhywbeth y mae comisiynwyr eraill yn pryderu amdano hefyd, ac mae hyn wedi digwydd yn y 12 i 18 mis diwethaf.

''Mae HMIC wedi derbyn £9.4m yn ychwanegol y llynedd, sydd wedi ei dynnu allan o gyllideb yr heddlu ac rwy'n meddwl eu bod nhw nawr yn ceisio cyfiawnhau eu bodolaeth.''

"Rydym am wneud y llu yn atebol am faterion lleol sydd yn effeithio ar bobl yn lleol, dydyn ni ddim eisiau rhyw fath o reolaeth ganolog gan reoleiddiwr sydd ddim yn deall yr ardal, yn gwneud sylwadau nad oes modd eu cyfiawnhau mewn adroddiad.''

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb i'r sylwadau hyn gan yr Arolygiaeth.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod yn ''fodlon'' fod yr arolwg wedi rhoi beirniadaeth dda i'r llu.

Yn ôl Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, roedd wedi ''synnu'' am bryderon yr Arolygiaeth am gofnodi troseddau gan fod Heddlu Gogledd Cymru wedi cofnodi graddfa gyrrhaeddiad o 94% - sef y pumed gorau yng Nghymru a Lloegr.

Fe ddyfarnodd yr Arolygiaeth fod Heddlu Dyfed Powys yn effeithiol ar y cyfan, ond roedd rhywfaint o bryderon am agwedd y llu at gamdriniaeth ddomestig, oedd wedi arwain at aneglurder am bwy oedd yn gyfrifol am reoli rhai prosesau.