John Allen yn euog o 33 o gyhuddiadau o gam-drin plant
- Cyhoeddwyd
Mae cyn reolwr cartrefi plant yn y gogledd ddwyrain, John Allen, wedi ei gael yn euog o 33 o gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol.
Fe'i cafwyd yn ddieuog o ddau o'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r rheithgor wedi methu cytuno o ran y cyhuddiadau eraill.
Mae'r rheithgor wedi cael eu rhyddhau o'u dyletswyddau gan y barnwr Mr Ustus Openshaw.
Roedd Allen, 73 oed o Needham Market yn Suffolk, wedi gwadu 39 cyhuddiad o gam-drin rhywiol yn erbyn 19 o fechgyn ac un ferch rhwng y 1960au a'r 1990au.
Yn euog
Ddydd Mercher fe benderfynodd y rheithgor yn unfrydol bod Allen yn euog o 26 o gyhuddiadau ac yn ddieuog o ddau.
Ar ôl ystyried ymhellach fore Iau dywedodd y rheithgor ei fod yn euog o saith cyhuddiad arall - un yn unfrydol a chwech o fwyafrif.
Roedd Allen yn gyfrifol am 11 o gartrefi plant yn ardal Wrecsam oedd yn cael eu hadnabod fel Cartrefi Bryn Alyn.
'Cyfres gywilyddus'
Wrth ymateb i'r dyfarniadau, dywedodd Karen Dixon o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae John Allen yn gyfrifol am gyfres gywilyddus o gamdrin dros gyfnod o ddegawdau - sydd wedi effeithio yn fawr iawn ar nifer o ddioddefwyr."
Dywedodd y barnwr y byddai Allen yn cael ei ddedfrydu ddydd Llun, ond mae'r barnwr eisoes wedi rhybuddio ei fod yn ystyried dedfryd o garchar am oes am y troseddau.