Pryder mab am farwolaeth ei fam yn Ysbyty Llwynhelyg
- Cyhoeddwyd
Mae mab menyw 75 oed fu farw mewn ysbyty yn Sir Benfro, yn dweud fod ganddo "bryderon mawr" am safon ei gofal.
Cafwyd hyd i Susan Evans ar ward yn Ysbyty Llwynhelyg ar 17 Tachwedd.
Yn ôl ei mab, Bill Evans: "Fe gymrodd hi ei bywyd ei hun ar y ward, tra'r oedd hi yng ngofal y gwasanaeth iechyd. Mae angen ateb cwestiynau difrifol."
Mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn cynnal ymchwiliad mewnol.
Yn ogystal, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth, ac mae'r teulu am gael gwybodaeth oedd 'na gynllun diogelwch ar waith.
Fe ddywedodd Mr Evans: "Mae gennym ni bryderon mawr am safon y gofal dderbyniodd hi yn yr ysbyty, a'r posiblrwydd o esgeulustod."
Doedd prif swyddog gweithredol y bwrdd iechyd, Paul Hawkins ddim am wneud sylw pellach, wrth i ymchwiliad yr heddlu fynd rhagddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2014