Cartref newydd dros dro i weddillion llong Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Darlun graffeg o Long CasnewyddFfynhonnell y llun, Cyfeillion Llong Casnewyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfeillion Llong Casnewydd yn gobeithio y caiff ei chartrefu mewn amgueddfa newydd

Fe fydd Llong Casnewydd - llong o'r 15fed Ganrif - yn symud i storfa newydd.

Cafodd y llong ei chanfod 12 mlynedd yn ôl mewn mwd dwfn ar waelod Afon Wysg yng Nghasnewydd wrth i waith gael ei wneud ar godi adeilad theatr Glan yr Afon.

Fe fydd y storfa yn gartref i'r llong am y tair blynedd nesa'.

Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r tanc cynta', a fydd yn cartrefu darnau o bren y cwch, gychwyn yr wythnos yma.

Mae gwaith cadwraeth yn cael ei wneud ar y llong 500 oed ar hyn o bryd.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n talu am y storfa wrth i'r gwaith gael ei wneud.

'Llwyddiant ariannol'

Yn y cyfamser, mae Cyfeillion Llong Casnewydd yn gobeithio y bydd modd arddangos y llong mewn amgueddfa.

Er mwyn gallu gwireddu eu breuddwyd, maen nhw am geisio codi £100,000 er mwyn cychwyn ar y prosiect.

Dywed y cyfeillion y gallai'r atyniad fod yn llwyddiant ariannol gyda 55,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ond eu gobaith yw denu cymaint â 120,000 bob blwyddyn.

Mae'r llong yn dyddio'n ôl i 1460 a hon ydi'r enghraifft mwya' cyflawn o long o'r cyfnod.

Y gred ydi bod y llong wedi ei hadeiladu naill ai yn ne orllewin Ffrainc, Gwlad y Basg neu ym Mhortiwgal a'i bod wedi ei defnyddio ar gyfer masnachu ar draws yr Iwerydd.

Ond mae sut y daeth i aros ar wely'r afon yng Nghasnewydd yn parhau i fod yn ddirgelwch.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol