Gwobrau Chwaraeon Cymru: Geraint ar y brig
- Cyhoeddwyd
Geraint Thomas yw enillydd gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2014.
Fe gafodd y wobr ei dyfarnu yn rhan o noson Gwobrau Chwaraeon Cymru nos Lun.
Geraint oedd y Cymro cyntaf i ennill aur am seiclo yng Ngemau'r Gymanwlad. Ddyddiau yn unig ar ôl gorffen y Tour De France yn ei safle uchaf erioed, enillodd efydd yn y ras yn erbyn y cloc yn Glasgow.
Er iddo gael trafferthion yn y ras ar y ffordd, enillodd y ras ac fe gafodd ei ddewis i gario'r Ddraig Goch yn y seremoni gloi.
Ynghyd â Geraint, y naw arall gafodd eu henwebu am y brif wobr oedd Gareth Bale (pêl-droed), Elinor Barker (seiclo), Jazz Carlin (nofio), Manon Carpenter (beicio mynydd), Georgia Davies (nofio), Jamie Donaldson (golff), Rachel James (seiclo), Frankie Jones (gymnasteg rhyddmaidd), a Natalie Powell (judoka).
Frankie Jones gipiodd yr ail safle eleni, gyda Manon Carpenter yn drydydd.
Enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn llynedd oedd Leigh Halfpenny.
GWOBRAU CHWARAEON CYMRU, 2014 - YR ENILLWYR
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2014- Geraint Thomas, wedi iddo gwblhau'r Tour de France, cyn ennill medalau aur ac efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow ddyddiau'n ddiweddarach.
Tîm y Flwyddyn - Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.
Hyfforddwr y Flwyddyn - Jo Coombs, arweiniodd dîm gymnasteg Cymru i gipio wyth medal yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.
Gwobr Cyfraniad Oes- Terry Griffiths, enillodd Bencampwriaeth Snwcer y Byd yn 1979 ar ei gynnig cyntaf. Fe enillodd bencampwriaeth y Meistri yn 1980 a Phencamwriaeth Prydain yn 1982 - gan selio'r Goron Driphlyg. Nawr, Terry yw un o hyfforddwyr disgleiria'r gamp.
Gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru- Bill Marlow, cyn-athro o'r Drenewydd, sy'n dysgu plant yng nghanolbarth Cymru i gyfeiriadu.
Chwaraewr a Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn (Gwobr Carwyn James)- David Omoregie (neidiwr clwydi) a Laura Halford (gymnasteg).
Gwirfoddolwr y Flwyddyn- Donna Marshall o glwb rygbi Ffynnon Taf, am ei gwaith sy'n cynnwys rhoi cyfle i bobl ifanc ag awtistiaeth chwarae rygbi.
Hyfforddwr i Bobl Anabl y Flwyddyn - Paul Jenkins, arweiniodd dîm rygbi cadair olwyn Prydain i ennill y fedal aur yng Ngemau Invictus eleni, ynghyd â'i waith gyda thîm Môrladron De Cymru.
Gwobr Cyfraniad Oes Cymunedol - Terry Grey, sydd wedi bod yn gyfrifol am Glwb Boscio Amatur Gwent ers 1971. Mae'r clwb wedi meithrin mwy na 30 o bencampwyr Prydeinig.
Mae Noson Gwobrau Chwaraeon Cymru yn ddigwyddiad lle mae BBC Cymru a Chwaraeon Cymru yn dathlu llwyddiant Cymry yn y byd chwaraeon.
Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister:
"Bob blwyddyn rydyn ni'n ceisio cyflawni mwy fel cenedl mewn chwaraeon ac mae enillwyr Gwobrau Chwaraeon Cymru'n dangos ein bod ni wedi codi i lefel uwch unwaith eto.
"Ar lefel elitaidd ac ar lawr gwlad, rydyn ni'n gweld llwyddiant na welwyd mo'i debyg o'r blaen o ran nifer y medalau sy'n cael eu hennill a nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon.
"Ein her nesaf ni yw cefnogi mwy a mwy o unigolion i gael yr un effaith ag enillwyr ein Gwobrau ni. Dyna'r unig ffordd i ni gynnal y momentwm cadarnhaol sy'n bodoli yn y byd chwaraeon yng Nghymru ar hyn o bryd."
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales:
"Mae wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i chwaraeon yng Nghymru. Roedd y seremoni'n gyfle perffaith i ganolbwyntio ar gyflawniadau'r timau a'r unigolion ysbrydoledig sydd wedi gwneud y 12 mis diwethaf mor arbennig.
"O feicio a phêl droed i focsio a gymnasteg, mae'n wefr gweld y cyfoeth yma o athletwyr o safon byd yn cystadlu dros Gymru - a chael cydnabod y talentau y tu ôl i'r llenni sy'n gwneud y cyfan yn bosib.
Sylwer nad yw'r digwyddiad yma'n gysylltiedig gyda Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y D.U., ac mai gwobr i Gymru yn unig yw hon.