Enwi ysgol ardal newydd Tregaron

  • Cyhoeddwyd
Henry RichardFfynhonnell y llun, Teithiau Twm
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Henry Richard o Dregaron yn aelod seneddol am 20 mlynedd

Ysgol Henry Richard ydy'r enw ar ysgol ardal newydd Tregaron.

Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ffair Nadolig ysgol uwchradd y dre nos Fercher.

Cafodd yr enw ei ddewis o blith rhestr fer a gafodd ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Ceredigion wythnos diwethaf.

Fe bleidleision nhw o blaid enwi'r ysgol ar ôl yr heddychwr o'r 19ed ganrif.

Fe gadarnhaodd Cyngor Ceredigion bod tri enw ar y rhestr fer a ddaeth oddi wrth lywodraethwyr yr ysgol - Ysgol Henry Richard, Ysgol Glannau Teifi ac Ysgol Grug y Gors.

Roedd yr enwau i gyd wedi cael eu cynnig gan y plant.

Ers mis Medi mae ysgolion cynradd ac uwchradd Tregaron wedi uno i greu un ysgol ardal i wasanaethu'r dre a phentrefi eraill cyfagos.

Does dim darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgol mwyach, gyda'r plant unai'n teithio i Ysgolion Penweddig yn Aberystwyth, Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan neu Ysgol Uwchradd Aberaeron.

'Dylanwad positif'

Yn ôl Jane Wyn, pennaeth dros dro yr ysgol uwchradd, "Rydym yn hapus iawn fel ysgol gyda'r enw newydd oherwydd mae dylanwad Henry Richard yn un bositif iawn.

"Pa esiampl gwell i'n pobl ifanc na dyn wnaeth gymaint dros heddwch a chydraddoldeb, ac mae'r gwerthoedd yna'n dal yn bwysig wrth i ni adeiladu'r ysgol newydd yma."

Roedd Henry Richard o Dregaron yn aelod seneddol am 20 mlynedd, ac mae'n cael ei adnabod fel apostol heddwch tu allan i Gymru ac yn rhyngwladol.

Fe gafodd ei benodi'n ysgrifennydd Y Gymdeithas Heddwch yn 1848 a fe oedd un o'u hysgrifenyddion mwyaf arwyddocaol. Mae cofgolofn iddo ar sgwâr Tregaron.

Mae gan unrhyw gynghorydd sydd yn gwrthwynebu'r enw yr hawl i ofyn i'r Cabinet alw'r penderfyniad yn ôl i gael ei ystyried eto.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, "gall y penderfyniad yma gael ei galw i fewn erbyn Dydd Iau 11 Rhagfyr yn dilyn proses 'galw i fewn ' gwleidyddol y Cyngor".