Elfyn Evans: Gyrru yn y gwaed
- Cyhoeddwyd
Roedd 2014 yn dipyn o flwyddyn i Elfyn Evans, y gyrrwr rali 25 oed o Ddinas Mawddwy ger Dolgellau.
Eleni oedd tymor cyntaf llawn Elfyn ym Mhencampwriaeth y Byd WRC, ac fe wnaeth dipyn o argraff yn y gystadleuaeth. Cafodd Cymru Fyw gyfle i holi Elfyn am ei brofiadau a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.
Faint o ran o dy fywyd oedd ralio pan oeddet yn tyfu fyny?
Gyda dad i ffwrdd gymaint efo ralio (mae Elfyn yn fab i'r cyn-yrrwr rali Gwyndaf Evans) mi roedd o'n sicr yn rhan o'm mhlentyndod i - dwi'n cofio mynd i ffwrdd yn aml i'w weld o'n cystadlu.
Ond doedd o ddim tan eithaf hwyr 'mlaen i ddeud gwir tan imi benderfynu yn iawn 'mod i isho gyrru car rali fy hun. Roedd gennai ddiddordebau eraill yn tyfu fyny, motobeics yr un mwyaf amlwg, ac oni'n tua 16 yn meddwl o ddifri am ralio yn broffesiynol.
Oedd 'na ddigwyddiad penodol wnaeth i chdi eisiau dechrau ralio? Neu teimlad dros amser oedd o mai dyna'r llwybr iawn i ti?
Yn sicr roedd o'n rhywbeth roedd gen i ddiddordeb mawr ynddo fo- perswadio dad i adael imi ddechrau ralio oedd y job fwyaf i fod onest! Ges i ddim dreifio car rali nes oni'n 17, ac wedyn nes 'mlaen wnes i adeiladu fy nghar rali cynta er mwyn cystadlu yn y flwyddyn gyntaf.
Doeddwn i ddim yn meddwl amdano fel gyrfa'r adeg yna, oni'n gwneud o am fy mod yn ei fwynhau. Doedd o ddim nes tua 2010 nes 'mod i'n gweld y cyfle i gael gyrfa mewn ralio a'i gymryd o ddifri.
Ar ddechrau dy yrfa, oeddet ti'n teimlo rhywfaint o bwysau gan fod dy dad wedi cael llwyddiant ac yn yrrwr rali adnabyddus?
Roedd pobl yn disgwyl pethau mawr efallai gan fod Dad di cael llwyddiant, ond doedd o ddim yn rhywbeth oedd yn fy mhoeni i fod onest.
Mae'r manteision o gael rhywun gyda'r holl brofiad 'na wrth fy ochr bob cam o'r ffordd yn fwy o fonws na unrhyw bwysau fysa rhywun yn gallu rhoi arna i.
Mi gefais ti lwyddiantcynnar trwy ennill Pencampwriaeth Ralio Ieuenctid Prydain yn 2010- oeddet ti'n disgwyl gwneud cystal yn y gystadleuaeth?
Do, mi roedd hynny yn brofiad gwych, ac mi wnaethon ni ennill pob rownd o fewn hwnna, sef y Fiesta Trophy.
Ond y peth mwyaf yn 2010 oedd ennill y Pirelli Star Driver, a oedd yn rhoi'r cyfle i ni gymryd y cam nesaf i ni symud 'mlaen i gar gyriant 4 olwyn y flwyddyn wedyn.
Beth oedd uchafbwyntiau tymor yma i ti?
Er ges i ddim y canlyniad gorau yno (7fed), roedd rali'r Ffindir yn rhywbeth reit sbeshial, ac mae'n siwr mai honno yw fy hoff rali. Roedd 'na buzz o yrru ar gyflymder mor uchel am amser mor hir- anaml iawn mae'r cyfle i wneud hynny.
Dwi'n meddwl mai rali Ffrainc 'dwi mwyaf balch ohoni, er bod y canlyniad efallai ddim yn adlewyrchu'r ffaith (gorffen yn 6ed). Roedd y cyflymder gorau gyda ni o'r cychwyn i'r diwedd, ac er cafon ni drafferthion efo'r car yn anffodus, dyna oedd ein perfformiad cryfa ni.
Pa rali oedd yr anoddaf i ti eleni?
Yr anoddaf oedd rali'r Ariannin dwi'n meddwl. Hwn oedd y tro cyntaf imi yrru yno ac roedd yr amodau yn anodd. Roedden ni eisiau gorffen y rali gan mai hon oedd ein tro cyntaf yno, ac yn gwybod y byddai'r profiad yn dda ar gyfer blynyddoedd i ddod. Roedd hi'n benwythnos rhwystredig iawn yno.
Ti'n gyrru gyda Mikko Hirvonen a Robert Kubica yn nhîm M-Sport, sut brofiad ydi gweithio gyda nhw?
Mae'n brofiad gwych cael y ddau yn y tîm- mor brofiadol, ond o gefndiroedd mor wahanol hefyd (roedd Kubica yn arfer gyrru yng nghystadleuaeth Fformiwla 1). Roeddwn i wedi rasio yn erbyn Robert y flwyddyn gynt yn categori y WRC2 ac yn ei nabod rhywfaint.
Roedden yn dysgu oddi ar ein gilydd, ond roeddan ni'n dau yn dysgu llawer gan Mikko hefyd gan ei fod mor brofiadol ac yn wastad yn barod i helpu a chynnig cyngor.
Yn sicr ar ddechrau y flwyddyn roedd o'n deimlad rhyfadd i fod yn sefyll wrth ochr y bobl oni wedi bod yn edmygu dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd gyrru yr un car â nhw a bod yn y lluniau gyda nhw wrth arwain at ddechrau'r tymor yn deimlad eitha surreal i ddweud gwir.
Ond fel aeth amser yn ei flaen ti'n sylwi fod nhw'n bobl gwbl naturiol ac yn hawdd i ddod mlaen gyda nhw, ac yna mae pawb yn dechrau ymlacio yng nghwmni eu gilydd. Dwi'n teimlo'n gwbl gyfforddus yn eu cwmni nhw bellach, ond yn amlwg mae genai dipyn o ffordd i fynd i guro y gorau ohonyn nhw.
Beth yw dy amcanion nesaf?
Y flwyddyn nesaf 'da ni eisiau adeiladu ar yr hyn rydym ni wedi ei gyflawni eleni. Byddai'n neis bod ar y podiwm (3 uchaf) rhyw ben, a dwi'n meddwl bod hynny yn bosib, yn enwedig efo car newydd a gwelliant yn dod i'r car erbyn canol y flwyddyn.
Yn yr hirdymor, dwi eisiau bod yn bencampwr y byd. Mae 'na lot o ffactorau pwysig yn bodoli i weld os ydi hynny'n bosib, yn bennaf gwelliant yn fy hun fel gyrrwr ond mae hefyd angen cael lwc ar fy ochr.
Cawn ni weld sut eith pethau yn y dyfodol, ond yn sicr y gobeithion rhyw ddydd yw bod yn bencampwr y byd.
Ralio+ Blwyddyn Elfyn, S4C, 17:05, 14 Rhagfyr , dolen allanol