Beth fydd dyfodol Y Bwthyn Bach o Gymru ar ôl ymadawiad Andrew?

Y Dywysoges Elizabeth y tu allan i'r Bwthyn Bach yn Royal Lodge, WindsorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Dywysoges Elizabeth oedd un o blant y Teulu Brenhinol fu'n mwynhau chwarae yn Y Bwthyn Bach

  • Cyhoeddwyd

Cafodd ei ddisgrifio unwaith fel y bwthyn bach mwyaf hudolus erioed, ac roedd yn rhan o atgofion plentyndod sawl aelod o'r Teulu Brenhinol.

Rhoddwyd Y Bwthyn Bach – tŷ dau lawr â tho gwellt – fel anrheg i'r Dywysoges Elizabeth ifanc yn 1932 gan bobl Cymru.

Ers hynny mae wedi bod ar dir y cartref teuluol yn Royal Lodge, Windsor, ac yn fwy diweddar daeth dan ofal teulu Dug Efrog.

Ond gyda'r teitl hwnnw wedi ei gymryd oddi ar Andrew Mountbatten-Windsor bellach, beth yw dyfodol y bwthyn – ac a allai ddychwelyd i Gymru ryw ddydd?

'Mwy fel tŷ cyfforddus'

Cafodd Y Bwthyn Bach ei adeiladu yng Nghaerdydd a'i gyflwyno i'r Dywysoges Elizabeth ar achlysur ei phen-blwydd yn chwech oed.

Wedi ei ddylunio gan y pensaer Edmund Willmott, fe'i grëwyd gyda deunyddiau oedd yn weddill o adeiladu Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg.

Cafodd ei ddylunio fel fersiwn llai o dŷ go iawn, gyda phedair stafell sydd yn bum troedfedd o uchder – dau ar bob llawr.

Roedd hyd yn oed yn cynnwys ffôn oedd yn gweithio, a stof trydan, oergell a thap dŵr i'r gegin – pethau fyddai'n foethus hyd yn oed i dai go iawn y cyfnod.

"Bwthyn oedd e'n cael ei alw, ond roedd e mwy fel tŷ cyfforddus dros ben," meddai'r hanesydd Dr Elin Jones.

Y Bwthyn Bach yn cael ei gludo o Gymru i'r Royal Lodge yn Windsor yn 1932Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Y Bwthyn Bach ei adeiladu yng Nghymru cyn cael ei gludo yn ei gyfanrwydd i'r Royal Lodge yn Windsor yn 1932

"Mae 'na rywbeth arbennig iddo, a dwi'n cofio gweld lluniau ohono pan o'n i'n blentyn – ar y pryd roedd y Tywysog Charles a'r Dywysoges Anne yn chwarae yn y tŷ bach twt ffantastig yma."

Pan roddwyd yr anrheg i'r Dywysoges Elizabeth roedd ei rhieni hi'n Ddug a Duges Efrog, cyn i'w thad George VI ddod yn Frenin yn dilyn ymddiorseddiad Edward VIII.

Yn nes ymlaen fe wnaeth cyfrifoldeb dros y bwthyn ddisgyn i Andrew pan oedd yntau'n Ddug Efrog, ac roedd ei ferched Beatrice ac Eugenie ymlith y genhedlaeth nesaf i'w fwynhau.

Fe wnaeth y Dywysoges Beatrice oruchwylio adnewyddiad o'r bwthyn, gan ei ddisgrifio fel "y bwthyn bach mwyaf hudolus erioed" mewn rhaglen ddogfen i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt Elizabeth II.

"Roedd Granny a'i chwaer [y Dywysoges Margaret] yn chwarae fan hyn pan oedden nhw'n fach," meddai ar y pryd.

"Rydyn ni wedi bod yn ddigon lwcus i chwarae yma, a'r cefndryd ac ail gefndryd."

Y Dywysoges Beatrice yn dangos y bwthyn i Andrew Marr ar gyfer cyfres BBC
Disgrifiad o’r llun,

Y Dywysoges Beatrice yn dangos y bwthyn i Andrew Marr ar gyfer cyfres BBC

Ond gyda theitlau Andrew yn cael eu cymryd oddi arno, mae dyfodol Y Bwthyn Bach yn aneglur.

Mae Palas Buckingham wedi cadarnhau i'r BBC fod y bwthyn ar hyn o bryd yn eiddo i'r Brenin Charles III.

"Dwi'n meddwl bod gan y Teulu Brenhinol a llywodraethau Cymru a Lloegr bethau pwysicach i feddwl amdano na dyfodol bwthyn i blant," meddai Dr Jones.

"Ond byddai modd dadlau mai'r lle gorau iddo... yw ei fod e'n dychwelyd i Gymru, a mynd i Sain Ffagan fel rhan o hanes ein gwlad.

"Mae'r tŷ yn symbol o'r teyrngarwch yna oedd gan bobl Cymru tuag at y Teulu Brenhinol am ganrifoedd.

"Ond mae'r cysylltiadau yna'n gwanhau a theneuo, oherwydd datganoli a newidiadau yn ein cymdeithas.

"Felly mae'r Bwthyn Bach yn rywbeth o'i oes a'i amser mewn gwirionedd. Mae'n hanesyddol ddifyr, felly gallech chi ddadlau y dylai fyw mewn amgueddfa yng Nghymru, fel creiriau eraill o'n gorffennol."

Mae model bychan o ddyluniad Y Bwthyn Bach yn cael ei gadw gan Amgueddfa CymruFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae model bychan o ddyluniad Y Bwthyn Bach yn cael ei gadw gan Amgueddfa Cymru

Mae Anne Daley o Gaerdydd, sy'n ffan o'r Teulu Brenhinol, yn gobeithio gweld y bwthyn yn parhau i gael ei ddefnyddio yn hytrach na'i adael yn segur.

"Mae'n fwthyn arall sy'n wag ar y stâd bellach, i ychwanegu at i lleill," meddai.

"Tybed a fyddai plant Tywysog Cymru a Catherine yn chwarae ynddo? Mae ond am gael ei anghofio a dechrau dirywio oni bai bod y Tywysog William yn gadael iddyn nhw ei ddefnyddio."

Os nad yw hynny'n digwydd, byddai'n hoffi gweld y bwthyn yn dychwelyd i Gymru.

"Roedd e'n anrheg, felly nhw sydd biau fe – dwi ddim yn siŵr os allwch chi ofyn am anrheg yn ôl," meddai.

"Ond yn hanesyddol bydden i wrth fy modd yn ei weld, dyw'r cyhoedd erioed wedi bod tu mewn.

"Bydden i'n awgrymu dod â fe 'nôl i Sain Ffagan i ni gyd gael ei weld, hyd yn oed os oes angen ei ddymchwel a'i ailadeiladu fricsen wrth fricsen."