Cyfyngiadau cyflymder newydd ar yr M4 ger Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o yrwyr pob dydd yn anwybyddu camerâu rheoli cyflymder o 50mya ar ffordd yr M4 drwy Bort Talbot.
Y camerâu yma yw'r rhai parhaol cyntaf - nid yn ystod gwaith ffordd yn unig - ar y draffordd yng Nghymru.
Cafodd pedwar camera eu gosod ym mis Hydref ar ddarn dwy filltir o'r M4, ac maen nhw'n cael eu profi a'u monitro ar hyn o bryd.
Bydd camau gorfodi yn dod i rym ar 19 Ionawr, ac ar hyn o bryd mae hyd at 700 o yrwyr yn anwybyddu'r cyfyngiad cyflymder pob dydd.
400-700 y diwrnod
Mae'r Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, GanBwyll, yn dweud bod y cyfnod prawf yn rhoi cyfle i yrwyr ddod i arfer gyda'r cyfyngiad cyflymder newydd.
Mae ystadegau sydd wedi eu rhoi i BBC Cymru gan y bartneriaeth yn dangos bod nifer y bobl sy'n gyrru'n gyflymach na'r cyfyngiad cyflymder yn 400-700 y diwrnod gan ddibynu ar y diwrnod a'r amser penodol.
Ond wrth ystyried nifer y ceir sy'n teithio ar y ffordd, mae hyn yn parhau i fod yn llai na 1% o'r traffig sy'n teithio ar ei hyd.
Cafodd un car ei gofnodi yn teithio ar gyflymder o 98mya.
19 Ionawr
O 5 Ionawr bydd gyrwyr sy'n torri'r cyfyngiad cyflymder yn derbyn llythyr yn eu rhybuddio eu bod wedi torri'r cyfyngiad.
Bydd y drefn orfodi'n dod i rym ar 19 Ionawr.
Dywedodd llefarydd ar ran GanBwyll: "Bydd hyn yn rhoi amser i'r cyhoedd addasu eu cyflymder a newid eu hymddygiad wrth yrru."
Mae camerâu parhaol sy'n mesur cyflymder cyfartalog eisoes ar yr A55 yng ngogledd Cymru a'r A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol y bydd y drefn orfodi'n dod i rym yn y Flwyddyn Newydd.
"Mae GanBwyll yn bwriadu rhedeg ymgyrch er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg gyrwyr o'r angen i gydymffurfio â'r cyfyngiad cyflymder, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio'r ffordd."
Yn y cyfamser, mae arbrawf gan Lywodraeth Cymru i gau'r slipffordd orllewinol ar gyffordd 41 yn ystod cyfnodau prysur wedi bod mewn grym ers pedwar mis.
Mae tagfeydd yn golygu bod cyflymder y traffig yn disgyn i 25-30mya yn ystod cyfnodau prysur a'r bwriad yw ceisio sicrhau bod gyrwyr yn gallu cwblhau eu siwrne yn gyflymach.
Bydd yr arbrawf yn cael ei adolygu ym mis Mawrth 2015 er mwyn penderfynu a yw wedi bod yn llwyddiannus ai beidio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2014
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2014