Delweddau anweddus: Achos yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod y canwr roc, Ian Watkins, wedi gorfodi menyw i arwyddo gorchymyn gagio pan wnaeth hi fygwth mynd at yr heddlu gyda'i phryderon y byddai'n cam-drin plentyn.
Mae cyn-gariad y canwr, Joanne Mjadzelics, 39 oed o Doncaster, yn gwadu saith cyhuddiad yn ymwneud â delweddau anweddus o blant.
Dywedodd Ms Mjadzelics bod Watkins wedi dweud wrthi ei fod wedi anfon delwedd iddi o ferch pump oed yn cael ei cham-drin a'i fod "wedi ei threisio".
Dywedodd yr erlyniad mai "i'w chredyd" ei bod hi wedi rhoi gwybod i'r heddlu am ei phryderon.
Obsesiwn
Mae Ms Mjadzelics wedi honni mai'r unig reswm iddi gyfnewid delweddau anweddus gyda Watkins oedd er mwyn datgelu beth oedd yn ei wneud a sicrhau ei fod yn cael ei ddwyn i gyfraith.
Clywodd y llys ei bod wedi anfon pum delwedd o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol iddo ym mis Medi 2011.
Cafodd Watkins ei ddedfrydu i 35 mlynedd yn y carchar am droseddau yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol ym mis Rhagfyr 2013.
Ond dywedodd yr erlyniad nad oedden nhw'n credu honiadau Ms Mjadzelics ei bod hi'n ceisio datgelu troseddau Watkins, ond yn hytrach, bod ganddi obsesiwn ag o.
'Rhaid gwneud rhywbeth'
Clywodd y rheithgor fanylion o gyfweliadau rhwng yr heddlu a'r diffynnydd wedi iddi gael ei harestio, ble y dywedodd wrth yr heddlu: "Roeddwn i mewn cariad llwyr ag o" pan gafodd ei chwestiynu am dapiau a gafodd eu recordio yn 2008 lle'r oedd Watkins a'r diffynnydd yn trafod eu hawydd i gam-drin plant.
Dywedodd ei bod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio cocên yn 2008 ac wedi sylweddoli bod y sgyrsiau gyda Watkins yn anghywir, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach roedd Watkins wedi ei gorfodi i arwyddo gorchymyn gagio (gagging order) "oherwydd fy mod i'n trafod mynd at yr heddlu".
Dywedodd yn y cyfweliadau: "Mi welais i o eto yn 2010 ac eto wedyn ym mis Mai 2011 pan sylweddolais fod rhaid i mi wneud rhywbeth.
"Dywedodd ei fod wedi anfon delwedd o ferch bump oed yn cael ei threisio a'i fod wedi'i threisio."
Dywedodd Ms Mjadzelics ei bod wedi cysylltu ag uwch-swyddogion yr heddlu, a'i bod yn flin nad oedden nhw wedi gwneud unrhyw beth ynglŷn â Watkins yn 2008.
'Teimlo'n sâl'
Clywodd y llys bod Watkins wedi ei gwahodd i ddod i'w weld ym mis Tachwedd 2011 er mwyn derbyn mwy o ddelweddau, gan ddweud bod ganddo gof bach (USB stick) iddi.
Honnodd ei bod wedi mynd at yr heddlu gyda gwybodaeth amdano ym mis Chwefror 2012, ond nad oedd unrhyw beth wedi digwydd wedi hynny, felly penderfynodd ei gyfarfod eto ym mis Ebrill.
Dywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi ail-gysylltu ag o er mwyn ceisio ail-ennill ei ffydd ynddi, oherwydd "mai hwn oedd yr unig ffordd o sicrhau cyfaddefiad ganddo.
"Yr unig reswm y byddwn i'n dweud y pethau yma oedd er mwyn iddo ymddiried ynddo i... beth allai wneud? Nid oes unrhyw un yn gwneud unrhyw beth amdano... a ydych chi eisiau i mi ei recordio gyda phlentyn? Beth ddylwn i wneud?"
Dywedodd bod beth roedd Watkins yn ddweud "yn arfer gwneud i mi deimlo'n sâl.
"Ar ôl 2008 yr unig dro wnes i gysylltu ag o, neu ei weld, oedd er mwyn ceisio ei ddal."
Mae Ms Mjadzelics yn gwadu pedwar cyhuddiad o fod â delweddau yn ei meddiant, dau gyhuddiad o ddosbarthu, ac un o annog a helpu i ddosbarthu llun anweddus o blentyn.
Mae'r achos yn parhau.