Ateb y Galw: John Ogwen

  • Cyhoeddwyd
John OgwenFfynhonnell y llun, S4C

Yr wythnos yma yr actor John Ogwen sydd yn Ateb y Galw gan Cymru Fyw, wedi iddo gael ei enwebu gan Dewi Pws.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael chwip dîn gan Nain pan o'n i tua 4 oed. Ges i ngeni yn 1944 ac felly roedd yna ifaciwî draw yn y tŷ. Wnes i roi slap iddi am ddwyn pêl, a mi ges i chwip dîn gan Nain wedyn am wneud y ffasiwn beth.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Mai Lloyd, hogan blond ddel iawn. Dim ond yn yr ysgol fach dwi'n ei chofio hi, mi roedd hi 'di symud i ffwrdd erbyn i ni fynd i'r ysgol fawr. Dwi'n cofio prynu rhuban iddi roi yn ei gwallt.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Daeth yna deulu i aros efo ni, ac i wneud lle nes i orfod mynd i aros efo ffrind yn y pentre'. Roedden ni wedi bod yn y caeau drwy dydd ac wedi yfed llwyth o laeth enwyn. Wel, rhywbryd y noson yna fe 'lychais y gwely gan socian ni'n dau - mae o'n dal i godi embaras mawr hyd heddiw!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn gyhoeddus ma'n siwr oedd ar ôl i mi annerch Eisteddfod yr Urdd ym Methesda a'r dorf yn codi ar ei thraed i fy llongyfarch. Ond dwi'n crio'n aml adeg ffilmiau neu ddramâu emosiynol.

Disgrifiad o’r llun,

Hogia Pesda: John yn rhannu llaeth enwyn a 'chydig o straeon gydag un o'i arwyr Caradog Pritchard

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae gen i lawer! Ond mae'n siŵr fod cnoi fy ngwinedd yn un o'r rhai dwi'n eu gwneud amlaf.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Rhufain. Ma' hi'n ddinas fach anghygoel ac mae'n bosib cerdded i bob man yno.

Dwi'n cofio mynd i Rufain efo criw Côr y Penrhyn adeg o'dd Cymru'n chwarae rygbi yno. Nath Dewi, un o'r hogia ar y daith fynd fewn i dafarn yno a thrio cael diod gan foi o'dd yn gweithio yno, ond mi roedd o'n siarad gyda'r drych, gyda'r barman yn sefyll tu ôl iddo. Dwi ddim yn cofio chwerthin gymaint erioed.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Unrhyw noson lle mae Everton yn ennill - dim llawer o bwys yn erbyn pwy, ond mae ennill yn erbyn Lerpwl yn eitha' arbennig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n 20 mlynedd 'leni ers i Everton ennill cwpan (sori dy atgoffa di John!)

Oes gen ti datŵ?

Nagoes, ma' nhw'n edrych yn hyll ofnadwy.

Beth yw dy hoff lyfr?

Un Nos Ola Leuad. Un o'r llyfrau mwyaf bendigedig a 'sgrifennwyd erioed. Roeddwn yn nabod yr awdur, Caradog Prichard, ac wrth gwrs mae wedi'i leoli yn fy ardal i.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dwi'm yn rhywun sy'n rhoi pwysigrwydd mawr ar ddillad, ond mae esgidiau golff yn wych am eu bod yn golygu mod i'n gallu mynd am rownd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Toy Story 3 dros Dolig, mi roedd o'n wych.

Dy hoff albwm?

The Best of Maria Callas, llais anghygoel ganddi!

Disgrifiad o’r llun,

Llais Maria Callas yn cynhesu stiwdio oer y BBC

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs - cig oen Cymreig.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Tecstio, sgenai'm mynadd ffonio.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Richard Branson, a chymryd ei ynys o heb iddo fo wybod.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Owain Arthur

Disgrifiad o’r llun,

"I ddeud y gwir wrthoch chi sa'n well gen i fod yn fy malŵn yn hedfan dros Pesda"