Pawb a'i Farn: Cyfres newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfres drafod Pawb a'i Farn ar daith eto gan roi cyfle i chi leisio'ch barn ar bynciau lu ar drothwy Etholiad y Cynulliad sy'n argoeli i fod yn un o'r etholiadau mwyaf diddorol ers sefydlu'r Cynulliad.
Bydd Dewi Llwyd a thîm Pawb a'i Farn yn teithio i leoliadau ar draws Cymru gan roi cyfle i holi panel o wleidyddion.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C am 9.30pm ar Nos Iau.
14 Ebrill - Yr Atriwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Y panelwyr ar y noson fydd Simon Thomas ar ran Plaid Cymru, Y Farwnes Eluned Morgan ar ran Llafur, Paul Davies ar ran y Ceidwadwyr, Y Farwnes Christine Humphreys ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol a Ken Rees ar ran UKIP.
21 Ebrill - Gwesty St George, Llandudno
Y panelwyr ar y noson fydd Siân Gwenllian ar ran Plaid Cymru, Aled Roberts ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Siôn Jones ar ran Llafur, Felix Aubel ar ran y Ceidwadwyr a Helen Smith ar ran UKIP.
28 Ebrill - Abertawe
Os hoffech chi fod yn rhan o'r gynulleidfa, neu am awgrymu lleoliad ar gyfer y gyfres nesaf, ffoniwch 01352 754 212 neu cysylltwch â pawbaifarn@bbc.co.uk
Twitter: #pawbaifarn #Cymru2016 i ymuno yn y drafodaeth neu @bbccymrufyw